Abarnu o safbwynt adnoddau dynol, mae Cymru yn un o ardaloedd mwyaf cystadleuol gwledydd Prydain. Fel y dengys arolwg ar ôl arolwg, ac fel y tystia gweithwyr ledled y wlad, mae gweithwyr yng Nghymru wedi adeiladu ar eu gallu rhyfeddol i weithgynhyrchu, ac maent yn ymrwymedig i gwrdd â disgwyliadau cyflogwyr yr oes heddiw.
Drwy groesawu technegau, sgiliau ac arferion gweithio newydd, maent wedi profi eu bod yn gystadleuol, yn fedrus, yn gallu addasu ac yn hyblyg.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod costau uned llafur yng Nghymru yn 8.4% yn is na'r cyfartaledd dros Brydain. Eu gallu i gynhyrchu - yn ogystal â chysylltiadau llafur ardderchog - yn hytrach nag enillion is, sy'n gwneud Sir Gaerfyrddin mor gystadleuol.
Mae'r sgiliau sydd ar gael yn hwylus yn cwmpasu pob sbectrwm o fusnes, gyda phwyslais cryfach na'r cyfartaledd cenedlaethol ar weithgynhyrchu a chyfran uchel yn gweithio yn rhan-amser neu dros-dro.
Roedd yr amrywiaeth eang o sgiliau sydd yn Sir Gaerfyrddin yn ffactor o bwys mewn denu Mitsui Kinzoku - dim ond un o'r mewn fuddsoddwyr diweddaraf y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'u denu i'r sir.
Yn gefn i hyn oll mae grantiau sydd ar gael yn hwylus i gynorthwyo gyda'r gwaith o ddysgu sgiliau newydd i weithwyr newydd a gwella sgiliau gweithwyr presennol, adeiladu ar safonau addysg uwch ardderchog a chysylltiadau â'r Prifysgolion.
Ystadegau Diweithdra
Yn draddodiadol, yr ystadegau diweithdra yw'r un dangosydd economaidd yn anad un arall sydd wedi'i gynhyrchu yn rheolaidd.
Mae'r ffigurau chwarterol diweddaraf am Awst 2009 yn dangos bod 3,614 yn hawlio tâl y di-waith neu bod 3.5% o'r gweithlu yn ddi-waith yn y Sir o'i gymharu â 4.2% yng ngwledydd Prydain a 4.4% yng Nghymru.