Mae Cymru â seilwaith sydd ymhlith y mwyaf datblygedig yn Ewrop. Mae biliynau o bunnoedd wedi'u buddsoddi i gael system effeithlon o drafnidiaeth a chysylltiadau sy'n cydweddu ag anghenion y busnesau rhyngwladol sydd wedi'u lleoli yma. O'r herwydd gellir dosbarthu nwyddau i gwsmeriaid allweddol ym Mhrydain ac yn Ewrop mewn mater o oriau.
- Mae modd cysylltu'n hwylus â'r holl farchnadoedd o Sir Gaerfyrddin.
- Mae rhwydwaith rhagorol yn yr ardal o gysylltiadau trafnidiaeth llif cyflym.
- Mae pum maes awyr rhyngwladol o fewn cyrraedd hwylus ar draffordd a rheilffordd.
- Mae maes awyr Heathrow yn 3 awr i ffwrdd ar ffyrdd o Sir Gaerfyrddin.
- Mae'r M4 yn LwybrEwro cydnabyddedig yng nghanol Ewrop.
- Mynediad hwylus i Dwnel y Sianel a'r tu hwnt.
- Mynediad ardderchog i'r holl brif ganolfannau diwydiannol eraill ym Mhrydain.
- Mae cysylltiadau rheilffordd cyflymder-uchel a ffyrdd yn rhoi mynediad cyflym i bob dinas fawr ym Mhrydain ac Ewrop.
- Mae rhwydwaith soffistigedig o delegyfathrebu yn Sir Gaerfyrddin gan gynnwys Cysylltiadau data a fideo blaengar.
- Mae cwmnïau o America a Siapan yn allforio rhwng 60% ac 80% o'u cynnyrch.
- Mae Mitsui a Calsonic yn cyflenwi nwyddau i Ewrop o'u safleoedd yn Sir Gaerfyrddin.
Amserau / Pellteroedd o Gaerfyrddin i:
Llundain - 3awr 40mun - 195 milltir
Birmingham - 2awr 40mun - 150 milltir
Manceinion - 4awr 10mun - 235 milltir
Leeds - 4awr 10mun - 265 milltir
Bryste - 1war 40mun - 80 milltir
Cork - 10awr - 180 milltir
Dulyn - 9awr 30mun - 155 milltir
Southampton - 3awr 25mun - 180 milltir