Tîm Cymru
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tîm Cymru 

Ymagwedd o’r enw Tîm Cymru sydd wrth wraidd llwyddiant Cymru yn denu mewnfuddsoddwyr, ac yr un mor bwysig, yn cadw'r mewnfuddsoddwyr hynny.

Mae'r ymagwedd gydlynol hon yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus fel Cyngor Sir Caerfyrddin, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Partneriaeth Bae Abertawe, asiantaethau eraill y llywodraeth a'r sector preifat yn gweithio gyda'i gilydd i gynnig atebion i anghenion mewnfuddsoddwyr.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio rhoi cymorth i gwmnïau ar amrywiaeth eang o anghenion gan gynnwys clustnodi safleoedd ac adeiladau, caniatâd cynllunio, llafur, cymorth o ran hyfforddiant a chymorth ariannol yn ogystal â rhoi cymorth ôl-ofal cynhwysfawr i'r cwsmer.


Tudalen wedi ei diweddaru ar 11/9/2008