Parc Bwyd a Pharc Busnes Cross Hands
Mae Cross Hands, sydd ar ffordd ddeuol yr A48, sef estyniad o'r M4, yn dod yn ganolfan o bwys ar gyfer datblygu diwydiannol. Mae’n gartref i’r unig barc bwyd yng Nghymru – Parc Bwyd Cross Hands.
Mae'r safle, sydd rhyw 16 milltir o Abertawe, 9 milltir o Lanelli a 12 milltir o Gaerfyrddin, mewn lleoliad strategol sydd â'r fantais o gael gweithlu mawr a medrus ar garreg y drws.
Ceir mynediad uniongyrchol i’r parc bwyd presennol ac i’r parc busnes cyfagos oddi ar gylchfan yr A48 ac mae'n ymestyn dros rhyw 34.40 hectar (85 erw). Mae wedi'i ddatblygu at ddefnydd amrywiol gan y sector gwasanaeth a'r sector adwerthu ynghyd â defnydd busnes a diwydiannol mwy safonol, gan gynnwys cynhyrchu bwyd, wrth gwrs.
Arwynebedd y Safle
Mae'r safle yn darparu 20.24 hectar (50 erw) arall wedi'i rannu yn dri gwastadedd o 11.33 hectar (28 erw), 5.06 hectar (12.5 erw) a 3.24 hectar (8 erw) gros. Gall y gwastadedd mwy fod â lle i uned o rhyw 46,450 m sg (500,000 tr sg) neu gyfres o unedau 929 m sg i 4,640 m sg (10,000 tr sg i 50,000 tr sg).
Ar y gwastadedd arall mae lle i hyd at 16,257.5 m sg a 6.967.5 m sg (175,000 tr sg a 75,000 tr sg) o le gweithgynhyrchu neu fe allai'r gwastadedd llai roi lle i ddatblygiad swyddfa deulawr o hyd at rhyw 6,967.5 m sg (75,000 tr sg) neu adeilad un llawr ar ffurf canolfan alwadau o tua 2,322.5 m sg (25,000 tr sg). Datblygwyd unedau bwyd llai yn ddiweddar i’w rhentu gan fusnesau bwyd.
Statws Cynllunio
Mae’r tir datblygu sydd ar gael yn cynnig lle ar gyfer dosbarthiadau defnydd B1, B2 a B8.
Manyleb
Ar y cyfan mae cysylltiadau gwasanaeth ar gyfer trydan a dŵr hyd at ymyl y safle ynghyd â chysylltiadau dŵr brwnt a dŵr wyneb.
Porth Llanelli
Gan fanteisio ar ei leoliad ar hyd ffordd gyswllt Llanelli yr A4138, mae Porth Llanelli hanner ffordd rhwng Canol Tref Llanelli a Chyffordd 48 ar draffordd yr M4.
Mae'r safle yn cynnwys dau wastadedd, gyda'r gwastadedd uchaf yn gartref i’r Technium Peirianneg Perfformiad a'r gwastadedd gwaelod ar gyfer datblygiad ategol a phrosiectau sy’n gysylltiedig â’r Technium.
Mae’r Technium Peirianneg Perfformiad yn cynnig cyfleuster ymchwil a datblygu ar gyfer busnesau sy'n arbenigo mewn peirianneg perfformiad, a bydd yn galluogi'r busnesau hyn i fynd i’r afael â dylunio, datblygu a phrofi i safon byd eang. Mae prif adeilad y Technium yn 2,200 m sg (23,500 tr sg) a bydd yn cynnwys 15 o unedau meithrin busnes.
Mae lle i ddatblygiadau mwy o faint hefyd ar y safle, a bydd cyfle iddynt ddefnyddio'r cyfleusterau yn y ganolfan Ymchwil a Datblygu.
Arwynebedd y Safle
Gwastadedd uchaf (datblygiad Technium Peirianneg Perfformiad) - 7.5 hectar (18 erw). Gwastadedd gwaelod - 5.5 hectar (14 erw).
Statws Cynllunio
B8 - Storio / Dosbarthu
B2 - Diwydiannol Cyffredinol
B1 - Busnes
Manyleb
Mae pob un o'r prif wasanaethau gan gynnwys nwy ar gael.
Nwy - 580 Therm
Prif Gyflenwad Dŵ r 600mm (450cm3 y dydd)
Parc Hendre
Lleolir y Parc hwn ychydig funudau yn unig o'r draffordd ac 20 munud o Abertawe, sy'n ei wneud yn safle arbennig o ddeniadol i fusnesau gweithgynhyrchu a dosbarthu o bob math.
Mae'n cynnig amrywiaeth eang o leiniau o wahanol faint, gyda phob gwasanaeth ar gael ac y mae yng nghanol ardal wledig o brydferthwch naturiol sy’n cynnig manteision cysylltiadau trafnidiaeth o'r radd flaenaf i'r prif farchnadoedd ym Mhrydain a'r tu hwnt.
Mae bron i hanner y safle 22 hectar (55 erw) hwn ar gael i'w ddatblygu, gan gynnwys dwy lain ddiwydiannol sylweddol.
Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi'i roi ar gyfer defnydd busnes, diwydiannol, storio a dosbarthu.
Arwynebedd y Safle
Mae rhyw 8.09 hectar (20 erw) o dir yn dal heb ei ddatblygu. Rhennir hwn rhwng safle 4.85 hectar (12 erw) sy'n adddas ar gyfer uned 14,864 m sg (160,000 tr sg) a safleoedd llai rhwng 0.81 hectar (2 erw) a 2.02 hectar (5 erw).
Statws Cynllunio
B8 - Storio / Dosbarthu
B2 - Diwydiannol Cyffredinol
B1 - Busnes
Manyleb
Mae'r gwasanaethau gan gynnwys trydan, dŵ r a nwy ar gael ar y stad ynghyd ac y mae amrywiol wasanaethau telathrebu yn yr ardal gyfagos.
Parc Pen-sarn
Mae Parc Pen-sarn gerllaw cyffordd yr A484 a'r A48 ar ymyl deheuol Caerfyrddin, sef rhyw filltir o Ganol Tref Caerfyrddin a hanner awr o Abertawe.
Mae'r safle proffil uchel 6 hectar (15 erw) hwn yn cynnig golygfeydd ardderchog dros Gaerfyrddin, sef tref allweddol Gorllewin Cymru, a byddai'r safle hwn, gyda'i gysylltiadau ffyrdd ardderchog a seilwaith o safon uchel, yn ganolfan ddeniadol dros ben i amrywiaeth eang o fentrau.
Mae'r ardal yn amgylchedd arbennig o iach i fusnesau canolfannau galwadau newydd, lle gall y colegau lleol ateb eu hanghenion o ran datblygu personél.
Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi'i roi ar gyfer datblygiadau swyddfa a warws, ac y mae lle i unedau amywiol eu maint - gan gynnig yr hyblygrwydd mwyaf posib i ddiwallu anghenion unigol y gwahanol fusnesau.
Arwynebedd y Safle
Gellir cael lleiniau o tua 0.40 hectar (1 erw) a hyd at 1.42 hectar (3.5 erw) ar gyfer amrywiaeth o adeiladau swyddfa o 1,393.5 m sg hyd at 3,716 m sg (15,000 tr sg hyd at 40,000 tr sg) ac unedau warws o 2,322.5 m sg hyd 3,716 m sg (25,000 tr sg hyd 40,000 tr sg).
Statws Cynllunio
Mae'r safle â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer defnydd B1 (Swyddfa) a B8 (storio a dosbarthu).
Manyleb
Mae'r safle â'r fantais o gael pob gwasanaeth sydd wedi'u gosod yn y ffordd fynediad, a bydd y cysylltiadau iddynt yn gwasanaethu pob llain.