English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cyngor Defnyddiol Ynghylch Rheoliadau 

Cynllunio

Mae'r  Is-adran Gynllunio, sy'n rhan o'r Adran Adfywio, yn cynnwys 72 o staff sy'n gweithio o dair swyddfa ardal a leolwyd yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Llandeilo

O fewn yr Is-adran Gynllunio ceir y gwasanaethau canlynol:

  • Rheoli Datblygiad a Gorfodaeth
  • Rheolaeth Adeiladu, Cynllunio Ymlaen
  • Cadwraeth a Chefn Gwlad
  • Mae'r Is-adran hefyd yn gwneud chwiliadau Pridiannau Tir


Mae Sir Gaerfyrddin yn gorchuddio ardal o 591,000 erw gyda tua 170,000 o drigolion. Cost gros yr Is-adran Gynllunio i bob preswylydd yw tua £13.27 y flwyddyn.

Mae rhan o'r Sir yn dod o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n awdurdod cynllunio ar wahan.

Safonau Masnach

Mae nodau'r Gwasanaeth Safonau Masnach yn cynnwys:

  • Rheoleiddio a gorfodi safonau pwysau a merurau.
  • Rheoleiddio a gorfodi safonau bwyd.
  • Rheoleiddio a gorfodi safonau ansawdd cynnyrch.
  • Rheoleiddio a gorfodi safonau diogelwch cynnyrch
  • Rheoleiddio a gorfodi masnachu teg.
  • Cynnig gwasanaeth cynghori i gwsmeriaid.


Diogelwch Tan

"Mae gwaith a wnaed gan Swydda'r Dirpwy Brif Weinidog ar faterion tan yn cynnwys diogelwch ac atal tan, polisi cendlaethol, datblygu deddfwriaeth a chanllaw, cyngor a chefnogaeth i awdurdodau a Brigadau tan, lleihau llosgi bwriadol, ymchwil ac ystadegau. Y nod yw gostwng marwolaethau, anafiadau a difrod sy'n gysylltiedig a than ac achosion eraill."

Mae Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM) yn rhoi cyngor pwysig ar Diogelwch Tan i fusnesau ar eu gwefan


Iechyd a Diogelwch

Y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE)  sy'n gyfrifol am reoleiddio bron y cyfan o'r risgiau i iechyd a diogelwch sy'n codi yn y gwaith ym Mhrydain.

Ein cenhadaeth yw gwarchod iechyd a diogelwch pobl drwy sirchau bod risgiau yn y gweithle sy'n newid yn cael eu rheoli'n iawn

Rydym yn edrych ar ol iechyd a diogelwch mewn gorsafoedd niwcliar a phyllau, ffatrioedd, ffermydd, ysbytai ac ysgolion, gweithfeydd nwy ac olew yn y mor, diogelwch y grid nwy a symud nwyddau a sylweddau perglus, diogelwch rheilffordd, a nifer o agweddau eraill o ddiogelwch gweithwyr a'r cyhoedd. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol i'r HSC am orodaeth mewn syddfeydd, siopau a rhannau eraill o'r sector gwasanaethau.


Cyfraith Cyflogaeth

Mae’r Cyfadran Cysylltiadau Cyflogaeth yn ceisio datblygu fframwaith i gyflogwyr a gweithwyr sy’n hyrwyddo marchnad lafur fedrus a hyblyg a seiliwyd ar egwyddorion partneriaeth.  Mae’n delio â’r berthynas rhwng gweithwyr a’u cyflogwyr, yn cynnwys hawliau unigol yn ogystal â threfniadau ar y cyd.

Beth Ydym yn ei Wneud:

Datblygu deddfwriaeth ar: Oriau gwaith, hawliau cyflog, gwyliau cyhoeddus, safonau asiantaeth gyflogaeth, hawliau cyflogaeth unigol, trefniadau diswyddo, ymgynghori â’r gweithwyr, undeau llafur a hawliau torfol.


Tudalen wedi ei diweddaru ar 08/9/2008