Cronfa Fuddsoddi Leol De-orllewin Cymru yw’r prosiect dan arweiniad Awdurdod Lleol cyntaf i dderbyn cefnogaeth Cydgyfeirio o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae Awdurdodau Lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion Dinas a Sir Abertawe, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot ynghyd mewn partneriaeth gyda Siambr Fasnach Gorllewin Cymru wedi ymrwymo i lwyddiant y prosiect a bydd yn rheoli’r prosiect o’i ddechrau yn 2009 hyd ei gwblhau yn 2014. Gall busnesau wedi eu lleoli yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Abertawe, Sir Benfro a Chastellnedd Port Talbot nawr wneud cais a manteisio ar y gronfa.
Mae grantiau cyfalaf ar gael am hyd at 40% o gostau cymwys prosiect, gyda lleiafswm grant o £1,000 a mwyafswm grant o £5,000 ar gyfer prosiectau datblygu busnesau yn Sir Gaerfyrddin.
Mae amrywiaeth eang o sectorau busnes yn gymwys gan gynnwys: y sectorau morol, ynni, peirianneg, gweithgynhyrchu, arloesedd, twristiaeth a hamdden, yr economi wybodaeth, y gwasanaethau creadigol a'r cyfryngau, technolegau cynaliadwy, nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol,TGCh, gwyddorau bywyd, cydrannau moduro,mentrau cymunedol a chymdeithasol, gwasanaethau bwyd a gwasanaethau busnes cyffredinol eraill.
Mae'r gwariant cymwys ar gyfer prosiectau yn cynnwys:-
• prynu offer
• caledwedd TG a thelathrebu os bydd yn uniongyrchol gysylltiedig â'r prosiect
• gwella safle
• costau marchnata unwaith yn unig
• datblygu gwefan
Gellir lawrlwytho ffurflen mynegi diddordeb ar yr ochr dde. Bydd pob ffurflen mynegi diddordeb yn cael ei hystyried yn unigol er mwyn ymateb ichi cyn pen 3 diwrnod gwaith. Os byddwch yn cael eich gwahodd i symud ymlaen i'r cam nesaf yn y broses, bydd angen ichi lenwi ffurflen gais a darparu'r wybodaeth ychwanegol ofynnol i ategu eich cais.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am ffurflen mynegi diddordeb cysylltwch â'r tîm drwy ffonio 01267 242390 / 01267 242391 neu drwy anfon e-bost at lif@sirgar.gov.uk
www.lifcymru.org.uk