Canol Tref Rhydaman
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Canol Tref Rhydaman 


Mae Rhaglen Adfywio Rhydaman yn dwyn ynghyd raglen fuddsoddi uchelgeisiol o dros £6.5 miliwn i adfywio ac i adnewyddu canol tref Rhydaman dros y tair blynedd nesaf, gan gyfuno arian gan y Cyngor Sir, Llywodraeth Cymru a'r sector preifat. Bydd y cynlluniau adfywio yn sylfaen gadarn i bwysigrwydd y dref fel canolfan gwasanaethau lleol sy'n gwasanaethu Dyffryn Aman a’r cefnfroydd ehangach a bydd yn cryfhau’r pwysigrwydd hwnnw.
Mae Rhydaman yn dref bwysig, yng nghyd-destun Sir Gaerfyrddin ac is-ranbarth y de-orllewin. Mae’r dref yn cynnig ystod o wasanaethau a chyfleusterau uwch, gan gynnwys addysg bellach, ysgol uwchradd, gofal iechyd cychwynnol, cyflogaeth ranbarthol, canolfan siopa ac ystod eang o gyfleusterau hamdden. Bydd y rhaglen fuddsoddi hon yn darparu profiad canol tref gwell i gymunedau Dyffryn Aman yn gyffredinol ac i ymwelwyr, gan wneud yr ardal yn fwy llewyrchus a chyfrannu’n sylweddol at ei thwf economaidd. Nod y rhaglen waith yw bod yn hyblyg, gan ymateb i’r galw yn y farchnad ac i gynlluniau posibl y bydd y sector preifat yn eu harwain. Mae buddsoddi yng nghanol tref Rhydaman yn elfen allweddol o Adfywio Dyffryn Aman a bydd hyn o gymorth o ran cynnal ei rôl fel tref strategol yng Nghymoedd y Gorllewin.

Y Buddsoddiadau a Gynlluniwyd

  • Ochr Ddeheuol Stryd y Cei – creu Sgwâr y Farchnad
  • Gwelliannau traffig ar gyffyrdd allweddol
  • Gwelliannau amgylcheddol ar sgwâr yr Arcêd, ar Stryd Marged, ar Ffordd Ddosbarthu Rhydaman ac ar Stryd y Cei
  • Grantiau Gwella Trefi i annog y sector preifat i fuddsoddi mewn adeiladau allweddol yng nghanol y dref
  • Helpu busnesau canol y dref drwy reoli canol y dref a thrwy fentrau cymorth busnes
  • Darparu lleoedd parcio ychwanegol yn Rhes Ffowndri
  • Gweithio gyda pherchenogion a datblygwyr i gamu ymlaen o ran datblygu’r safleoedd diffaith allweddol yn y dref
  • Gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio er mwyn cael gwell dolenni cyswllt yn y dref, yn enwedig ar y llwybrau sy’n cysylltu’r dref â’r llecynnau glas ac â llwybr Glan yr Afon

Mae cynllun Grant Gwella Trefi wedi cael ei lansio i annog perchenogion eiddo yng nghanol y dref i wella tu blaen eu heiddo masnachol. Gallai’r grant fod hyd at 75% o gost y gwaith cymwys a fydd yn cynnwys blaenau siop a ffenestri uwch newydd, rendro, paentio, nwyddau dŵr glaw ac arwyddion.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo ei adnoddau ei hun i adfywio canol y dref yn ogystal â cheisio sicrhau cyllid allanol gan amryw o ffynonellau, gan gynnwys cronfa Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin, ac mae’r Cyngor yn ceisio denu buddsoddiad sector preifat i gyflawni’r rhaglen gyfan.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith adfywio yng nghanol tref Rhydaman, cysylltwch â Cath Jones ar 01554 742180 neu danfonwch ebost at CJones@sirgar.gov.uk

Tudalen wedi ei diweddaru ar 31/10/2011
 
Manylion Cysyllt
 


Cath Jones
Swyddog Datblygu 

01554 742180
CJones@sirgar.gov.uk