ADREF - Adfywio Tref Llanelli
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
ADREF - Adfywio Tref Llanelli 
09/08/2011 

 Tref Llanelli Town

Dros y 2–3 blynedd nesaf bydd mwy na £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng nghanol tref Llanelli, sef buddsoddiad a fydd yn cynnwys ailddatblygu Plas Llanelly, ailwampio Llyfrgell Llanelli, a’r theatr newydd a datblygiad Porth y Dwyrain. Bydd prosiect ADREF yn “gonglfaen” a ddaw â phob un o elfennau cynllun canol y dref ynghyd a’u cryfhau. Nod pennaf y prosiect fydd gwneud y dref yn fwy cynaliadwy drwy ysgogi’r sector preifat i fuddsoddi ynddi a thrwy gynnig gwell canol tref i’r gymuned gyfan. Bydd hyn yn gwneud yr ardal yn fwy llewyrchus ac yn cyfrannu’n sylweddol at ei thwf economaidd.

Mae 3 elfen i brosiect ADREF:

Elfen 1 – Pecyn o welliannau amgylcheddol ac o welliannau mynediad yn y dref ac o’i hamgylch, a fydd yn gwella ansawdd y llecynnau cyhoeddus ac yn gwella nodweddion arbennig a naws unigryw canol y dref. Nod y gwelliannau amgylcheddol fydd:

  • Gwella’r llecynnau cyhoeddus yng nghanol y dref ac o'i hamgylch
  • Gwella’r pyrth allweddol sy'n arwain i ganol y dref
  • Gwella’r cysylltiadau o ran y llwybrau cerdded/beicio rhwng canol y dref a’r cymunedau o gwmpas y dref.
  • Creu cyhoeddusrwydd ar gyfer y prosiect i hybu'r weledigaeth ac i ddarparu gwybodaeth ynghylch adfywio Llanelli.

Elfen 2 – Pecyn o gymorth ariannol i’r sector preifat er mwyn annog gwelliannau i eiddo. Mae dau fath o gymorth ar gael:

  • Grant Gwella Trefi - er mwyn annog gwelliannau i du blaen eiddo masnachol mewn ardaloedd allweddol.
  • Grant Datblygu Eiddo (PDG) – er mwyn annog creu arwynebedd llawr newydd a pharod i fusnesau ar safleoedd diffaith (yn unol â safon ardderchog BREEAM), neu adnewyddu eiddo adfeiliedig yng nghanol y dref (yn unol â safon dda BREEAM)

Elfen 3 – Sefydlu Canolfan Cynhwysiad Economaidd. Prif nod y Ganolfan yw ennyn diddordeb y bobl sydd wedi ymbellhau fwyaf o'r farchnad lafur ac sy'n economaidd anweithgar. Bydd y Ganolfan hefyd yn darparu mynediad i hyfforddiant a gwybodaeth ynghylch ystod o faterion er mwyn gwella’r cyfleoedd economaidd i’r bobl dan sylw a hynny mewn un man cyswllt.

Cadwch eich llygaid ar agor am y ganolfan wybodaeth sy'n cael ei sefydlu yng nghanol y dref – ymwelwch â ni i weld beth sy'n digwydd.

Manylion Cyswllt

Cysylltwch â Simon Rees: 01554 742173 SCRees@sirgar.gov.uk   neu Michael Morgan:
01554 742587 MiAMorgan@sirgar.gov.uk  

 
Cyngor Sir GârCronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop

 

 

 

 


 
Manylion Cyswllt
 


Simon Rees
Swyddog Datblygu Adfywio Ffisegol

01554 742173
SCRees@sirgar.gov.uk

Michael Morgan
Swyddog Datblygu Adfywio Ffisegol 

01554 742587
MiAMorgan@sirgar.gov.uk