Mae adfywio yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei yrru gan yr angen i ddatblygu economi a chymdeithas y sir, a gwella ei hamgylchedd. Gwneuthur hyn er mwyn parhau i hyrwyddo'r ardal fel lleoliad allweddol yng Ngorllewin Cymru i fyw, gweithio a buddsoddi.


Mae 17 o staff yn gweithio yn y tîm Adfywio Ffisegol, 10 ohonynt yn cael eu hariannu'n allanol, wedi'u lleoli yn Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin. Mae'r tîm yn darparu cymorth ar gyfer seilwaith safleoedd, datblygu eiddo, a gweithgarwch adfywio mewn trefi a phentrefi. Mae’r tîm yn gweithio mewn partneriaeth i hwyluso datblygiad safleoedd allweddol drwy Fentrau ar y Cyd, a rhaglen Cydgyfeirio Ewropeaidd, y Cynllun Datblygu Gwledig, cynllun y Cymoedd Gorllewinol neu gyllid arall.
Am fwy o wybodaeth ar brosiectau penodol, gwaith blaenorol a wnaed, a chymorth ariannol sydd ar gael cliciwch ar yr opsiynau yn y blwch ar yr ochr llaw chwith.