Cynllun Grant Gwella Tref Llanelli
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cynllun Grant Gwella Tref Llanelli 


Dros y 2–3 blynedd nesaf bydd mwy na £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng Nghanol Tref Llanelli. Bydd prosiect ADREF yn “gonglfaen” a ddaw â phob un o elfennau cynllun canol y dref ynghyd a’u cryfhau. Un o brif elfennau cynllun ADREF yw Grant Gwella Trefi i annog gwelliannau i elfennau gweladwy tu blaen eiddo masnachol mewn ardaloedd allweddol. Bydd y Grant Gwella Trefi yn galluogi busnesau cymwys i wella tu blaen adeiladau.

Mallard Estate Agents, Llanelli

Prosiectau Cymwys

Prosiectau a fydd yn gwella tu blaen adeiladau busnes os yw'r prosiectau hynny:

  • yn diogelu swyddi sydd eisoes yn bodoli/creu swyddi newydd
  • yn Ardal Cynllun Datblygu Canol Tref Llanelli
  • yn cyflogi llai na 10 o bobl a bod ganddynt drosiant o lai nag £1.36 miliwn


Y Gwaith Cymwys

Bydd yn cynnwys:

  • Adnewyddu tu blaen siopau
  • Ailrendro
  • Ffenestri newydd
  • Arwyddion
  • Cafnau a pheipiau dŵr glaw
  • Paentio


Gwaith nad yw'n gymwys

  • Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw arferol
  • Gwaith sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch a gofynion statudol e.e. mynediad ar gyfer pobl anabl
  • Gwaith na fydd yn cyfrannu'n helaeth at wella amgylchedd yr ardal yn gyffredinol, e.e. gwaith i ochrau adeilad nad ydynt yn cael eu gweld gan y cyhoedd

Y Meini Prawf ar gyfer Asesu

Asesir y prosiectau ar sail:

  • Nifer y swyddi sy'n cael eu diogelu/creu
  • Nifer yr adeiladau a gaiff eu gwella
  • Ansawdd y dylunio
  • Nifer y busnesau sy'n gweithio mewn partneriaeth i wella'r ddelwedd amgylcheddol

Y Grant

Rhaid i'r ymgeiswyr ddangos bod angen cymorth ariannol arnynt. Os bydd achos o'r fath wedi'i dderbyn, gall ymgeiswyr wneud cais am hyd at £15,000 neu 75% o holl gostau cymwys y prosiect yn dibynnu pa un yw'r lleiaf.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Simon Rees, rhif ffôn 01554 742173 SCRees@sirgar.gov.uk neu Michael Morgan, rhif ffôn 01554 743587 MiAMorgan@sirgar.gov.uk 

Cliciwch yma am esiamplau o brosiectau blaenorol ag ariannwyd gan Gynlluniau Grant Gwella Trefi

Tudalen wedi ei diweddaru ar 02/11/2011
 
Manylion Cysyllt
 


Simon Rees
Swyddog Datblygu

01554 742173
SCRees@carmarthenshire.gov.uk

Michael Morgan
Swyddog Datblygu

01554 742587
MiAMorgan@carmarthenshire.gov.uk