Mae Grant Datblygu Eiddo Tref Llanelli yn elfen o brosiect ADREF. Dros y 2-3 blynedd nesaf bydd mwy na £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng nghanol tref Llanelli, sef buddsoddiad a fydd yn cynnwys ailddatblygu Plas Llanelly, adnewyddu Llyfrgell Llanelli, a datblygiadau’r theatr newydd a Phorth y Dwyrain. Bydd prosiect ADREF yn “gonglfaen” a ddaw â phob un o elfennau cynllun canol y dref ynghyd a’u cryfhau. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma
Nod y Grant Datblygu Eiddo yw rhoi cymorth ariannol i annog creu arwynebedd llawr newydd a pharod i fusnesau ar safleoedd diffaith (yn unol â safon ardderchog BREEAM), neu adnewyddu eiddo adfeiliedig yng nghanol y dref (yn unol â safon dda BREEAM).
Y Gyfradd Ymyrryd
Dylid cynnal arfarniad o’r datblygiad i bennu lefel y cyllid yr ymgeisir amdano a dylai adlewyrchu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn a ragwelir bydd costau cyfalaf y cynllun a’r hyn a ragwelir bydd gwerth yr eiddo ar y farchnad ar ôl ei gwblhau. Gall y canlynol effeithio ar lefel y cyllid a gynigir:
- Y lleiafswm a ystyrir yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r prosiect
- Gwerth y prosiect i'r economi lleol yn seiliedig ar nifer y swyddi a'u math; yr arwynebedd llawr a fydd ar gael; y tir sydd i'w ddatblygu a nifer y mentrau bach a chanolig eu maint a gynorthwyir
- Yr awdurdod lleol perthnasol fydd yn penderfynu uchafswm y cyllid a roddir i bob prosiect
Mae'r cyllid yn cael ei reoli gan gyfraddau ymyrryd a bennir ar sail maint masnachol yr ymgeisydd – dyma'r canllawiau:
| 50% |
Menter fach h.y. <50 o weithwyr, trosiant blynyddol nad yw'n fwy na 10 miliwn ewro. |
| 40% |
Menter ganolig ei maint h.y. <250 o weithwyr, trosiant blynyddol nad yw'n fwy na 50 miliwn ewro. |
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: