Deddf Hapchwarae 2005, Ymgynghori ynghylch Adolygu’r Polisi Hapchwarae:
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal adolygiad o’i Bolisi Hapchwarae, sy’n pennu’r egwyddorion sydd ar waith pan fo’r Cyngor yn ymgymryd â’i swyddogaethau o dan y Ddeddf.
Rhaid adolygu’r polisi presennol, a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod ym mis Ionawr 2007, bob tair blynedd o leiaf i sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth y gymuned leol o ran y modd y mae’n bodloni’r amcanion statudol.
Yn rhan o’r adolygiad mae’r Cyngor yn ymgynghori â nifer o bartïon sydd â diddordeb yn y mater, yn cynnwys deiliaid trwyddedau, busnesau, trigolion lleol a’u cynrychiolwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Hapchwarae, ac am Bolisi Hapchwarae presennol y Cyngor, ewch i'r dudalen Deddf Hepchwarae 2005 i gynorthwyo â’r broses ymgynghori hon, mae’r Cyngor yn paratoi dogfen ymgynghorol ddwyieithog, a fydd ar gael yma cyn bo hir.
Dogfen Ymgynghorol Adolygur Polisi Hapchwarae Awst 2009.doc
Os hoffech gael copi o’r ddogfen ymgynghorol neu unrhyw wybodaeth am yr ymgynghori neu’r Ddeddf Hapchwarae, cysylltwch â’r adain drwyddedu drwy ffonio 01267 234567.
Emyr Jones
Prif Swyddog Trwyddedu
Diogelu’r Cyhoedd
Adran Gofal Cymdeithasol a Thai
Cyngor Sir Caerfyrddin
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LE
Neu drwy ffacs at: 01267 229141
Neu drwy e-bost at: publicprotection@sirgar.gov.uk
Rhaid cyflwyno ymatebion i’r ddogfen ymgynghorol erbyn 9 Hydref 2009, er y byddid yn gwerthfawrogi ymateb cynharach.