Rwydwaith Electronig
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 28/8/2008
Rwydwaith Electronig 

Ers sawl blwyddyn bellach mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi buddsoddi mewn technoleg gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gwasanaeth Pridiant Tir Lleol. Rydym wedi gwella ein gwasanaeth yn sylweddol er budd ein clientiaid ac yn parhau â'r broses honno. Y system gyfrifiadurol a weithredir gan yr Awdurdod Lleol yw SearchNET, sy'n rhwydwaith electronaidd llawn o wasanaeth Pridiant Tir Lleol ac ymholiadau a osodwyd gan Ymgynghorwyr MVM.

Mae'r system yn galluogi i drawsgludwr greu ymholiad o gyfrifiadur pen-desg yn eu swyddfa eu hunain, a anfonir wedyn i'r swyddfa Pridiant Tir Lleol drwy'r system NLIS (National Land Information Service) i'w wirio a'i lenwi. Mae'r chwiliad wedi'i gwblhau yn cael ei anfon ymlaen yn electronaidd at y trawsgludwr dan sylw.

Y tri prif fantais yw:

1. Lleihau'r gwaith papur.

2. Gan gad oes angen anfon arian gyda'r ymholiad nid oes unrhyw wallau gyda'r ffi gan fod y ffi cywir yn cael ei gasglu yn awtomatig drwy ddebyd uniongyrchol.

3. Caiff atebion chwiliad eu postio'n electronaidd at glientiaid gan arbed amser hyd yn oed yn erbyn DX.

Fel Uned brysur Pridiannau Tir barnwn y bydd y gwasanaeth hwn nid yn unig yn cyflymu'r ymholiad ond hefyd yn ein helpu i weithio gyda'r client i ddarparu gwasanaeth mwy effeithlon. Mae'r system hon yn cael ei gweithredu ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin a defnyddir hi gan nifer o gyfreithwyr yn y sir.

Os dymunwch gael rhagor o wybodaeth am yr uchod a fyddech gystal â chysylltu â'r Uned Pridiannau Tir yn y cyfeiriad a nodir.

Hefyd mae gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol dudalen llawn gwybodaeth ar eu gwefan ar y mater - www.nlis.org.uk