The deadline for applications to this competition has now been extended to Monday 6th June 2011!

Ydych chi’n barod i gymryd eich Camau Nesaf tuag at yrfa newydd?
Mae cystadleuaeth gyffrous ar fin cychwyn yn Sir Gaerfyrddin i ddod o hyd i Brentis CYFLOGEDIG llawn amser newydd ar gyfer cwmni adeiladu Lloyd & Gravell Ltd
Mae’r gystadleuaeth yn agored i ddynion a menywod sydd dros 16 oed ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin
Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddo mewn cyfweliad yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn chwe wythnos o hyfforddiant sgiliau yn y gweithle mewn gwaith saer, gwaith bricio a phlastro, a byddant yn cymryd rhan mewn heriau wythnosol cyffrous i brofi eu gallu i ddysgu
Bydd yr enillydd yn cychwyn prentisiaeth ddwy flynedd gyflogedig gyda Lloyd & Gravell Ltd ym mis Medi
Gallai’r rhain fod y Camau Nesaf tuag at eich dyfodol newydd…
Gwybodaeth gyffredinol
Mae Camau Nesaf yn cael ei redeg trwy bartneriaeth rhwng Is-adran Gwasanaethau Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr, Cymdeithas Hyfforddiant Adeiladu Sir Gaerfyrddin (CCTAL) a Lloyd & Gravell Ltd.
Mae’n gystadleuaeth gyffrous i ddod o hyd i brentis adeiladu newydd i weithio gyda’r contractwr adeiladu o Sir Gaerfyrddin, Lloyd & Gravell Ltd.
Gall unrhyw rai, yn ddynion neu fenywod dros 16 oed ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, roi cynnig ar y gystadleuaeth i gael cyfle i ennill prentisiaeth gyflogedig lawn amser am isafswm o ddwy flynedd.
Gwahoddir ceisiadau erbyn diwedd y dydd ar ddydd Mawrth, Mai 31, 2011. Gellir lawrlwytho ffurflenni o’r wefan hon, neu o www.lloydandgravell.co.uk
Cynhelir cyfweliadau ym mis Mehefin, a bydd pawb sy’n llwyddo yn cymryd rhan mewn cyfnod o hyfforddiant cychwynnol mewn coleg am gyfnod o bythefnos.
Yna mae’r gystadleuaeth yn cael ei thorri i chwe ymgeisydd sy’n cael eu rhannu’n ddau dîm. Mae’r timau’n cael eu ‘paru’ gyda mentoriaid yn Lloyd & Gravell, ac yn cymryd rhan mewn hyfforddiant sgiliau ar safle adeiladu go iawn yn Sir Gaerfyrddin.
Gall ymgeiswyr ddisgwyl cael eu gorchuddio mewn llwch o’u corun i’w sawdl wrth iddyn nhw ddymchwel nenfydau, bod hyd eu pengliniau mewn tywod a sment, a chael eu dwylo’n llawn sgim plastro…
Bydd yr ymgeiswyr yn cymryd rhan hefyd mewn heriau adeiladu wythnosol mewn crefftau sy’n cynnwys plastro, gwaith bricio a gwaith saer.
Bydd y sawl sy’n gwneud orau yn yr heriau yn ennill gwobrau – ond gwyliwch, efallai y bydd rhaid i bobl nad ydynt yn gwneud cystal dderbyn fforffed…
Bydd panel o feirniaid yn monitro’r ymgeiswyr ar hyd y daith, a chyda chymorth mentoriaid y safle adeiladu, bydd enillydd yn cael ei ddewis a’i gyhoeddi ym mis Awst.
Yna bydd yr enillydd yn cychwyn ar brentisiaeth gyflogedig lawn amser yn Lloyd & Gravell am isafswm o ddwy flynedd, yn dechrau ar ddydd Mawrth, Awst 30, 2011.
Ymgeiswyr ac enillydd y llynedd
Lansiwyd prosiect Camau Nesaf yn 2010, ac fe’i henillwyd Iwan Thomas, 26 oed, o Frynaman. (pic Onsite 06)
Doedd gan y tad i ddau o blant, cyn golffiwr proffesiynol, ddim profiad blaenorol o’r diwydiant adeiladu, a phenderfynodd roi cynnig arni er mwyn cynnig gwell dyfodol i’w deulu.
Mae’n gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd yn ei brentisiaeth yn Lloyd & Gravell, a bydd yn aelod o’r panel cyfweld ar gyfer cystadleuaeth eleni.
“Mae ennill Camau Nesaf wedi newid fy mywyd. Erbyn hyn rydw i ar fy ffordd i gymhwyso’n saer ac rwyf yn adeiladu dyfodol cadarn i’r teulu.”
Gwnaeth Vincent Sheenan, 31 oed, o’r Bynea, gymaint o argraff trwy gydol y gystadleuaeth fel y cafodd gynnig prentisiaeth gan TRJ Contractors, cwmni arall o Sir Gaerfyrddin. Mae wrthi ar hyn o bryd yn gweithio tuag at gymhwyso’n saer coed. Cyn hynny gweithiodd yn labrwr.
Cymerodd y bechgyn un ar bymtheg oed William Jones, Michael Jones a Liam Griffiths ran yng nghystadleuaeth Camau Nesaf hefyd.
Er na wnaethant ennill, roedd y panel beirniaid wedi cael y fath argraff o’u hymrwymiad a’u brwdfrydedd fel y cafodd pob un ohonynt gynnig lle ar gynllun Llwybrau i Brentisiaeth Coleg Sir Gâr.
Maen nhw’n tynnu at ddiwedd eu blwyddyn gyntaf, ac mae’r tri yn gwneud yn dda.
Mae William yn gobeithio cymhwyso’n saer coed, ac mae Michael a Liam yn gweithio tuag at gael cymhwyster mewn gwaith bricio.
Canllawiau’r gystadleuaeth
Cynhelir proses y gystadleuaeth dros gyfnod o wyth wythnos, yn cychwyn ar ddydd Llun, Mehefin 27ain, 2011, ac yn rhedeg tan ddydd Gwener, Awst 19eg, 2011.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr fod ar gael a chymryd rhan yn y broses trwy gydol y cyfnod hwn – gweler yr amserlen.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr weithio ar safle adeiladu, a gwneud unrhyw hyfforddiant iechyd a diogelwch angenrheidiol, a mynd ar bythefnos o hyfforddiant yng nghampws Coleg Sir Gâr yn Rhydaman (bydd disgwyl iddynt wneud eu trefniadau trafnidiaeth eu hunain).
Bydd panel o feirniaid yn monitro’r ymgeiswyr trwy gydol proses y gystadleuaeth, a byddant yn cyhoeddi enw’r enillydd ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener, Awst 26, 2011.
Bydd disgwyl i’r enillydd gychwyn ar brentisiaeth gyflogedig yn Lloyd & Gravell am isafswm o ddwy flynedd ar ddydd Mawrth, Awst 30, 2011.
Mae penderfyniad y panel beirniaid yn derfynol, ac ni fydd unrhyw ohebu yn ei gylch.
Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr yn cytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd perthnasol, gan gynnwys erthyglau yn y wasg, cyfweliadau, ffotograffau a ffilmio, allai gael eu cyhoeddi neu eu darlledu yn y wasg, ar-lein a thrwy gyfryngau cymdeithasol fel Facebook.
Amserlen y prosiect
Dydd Mawrth, Mai 31ain, 2011 Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
Dydd Mercher, Mehefin 15fed, 2011 Cynnal cyfweliadau ym Mharc y Scarlets, Llanelli
Dydd Iau, Mehefin 16eg, 2011 Cynnal cyfweliadau ym Mharc y Scarlets, Llanelli
Dydd Llun, Mehefin 27ain, 2011 Ymgeiswyr llwyddiannus yn cychwyn pythefnos o hyfforddiant mewn coleg
Dydd Llun, Gorffennaf 11eg, 2011 Wythnos 1 – hyfforddiant yn y gweithle
Dydd Llun, Gorffennaf 18fed, 2011 Wythnos 2 – hyfforddiant yn y gweithle
Dydd Llun, Gorffennaf 25ain, 2011 Wythnos 3 – hyfforddiant yn y gweithle
Dydd Llun, Awst 1af, 2011 Wythnos 4 – hyfforddiant yn y gweithle
Dydd Llun, Awst 8fed, 2011 Wythnos 5 – hyfforddiant yn y gweithle
Dydd Llun, Awst 15fed, 2011 Wythnos 6 – hyfforddiant yn y gweithle
Dydd Gwener, Awst 26ain, 2011 Cyhoeddi’r enillydd ym Mharc y Scarlets, Llanelli
Dydd Mawrth, Awst 30ain, 2011 Yr enillydd yn cychwyn prentisiaeth gyda Lloyd & Gravell Ltd
Partner info/links
Is-adran Gwasanaethau Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin

Mae’r Is-adran Gwasanaethau Eiddo yn gyfrifol am atgyweirio, cynnal a chadw a gwella’r rhan fwyaf o asedau eiddo’r cyngor, gan gynnwys tai cyngor, ysgolion, cyfleusterau hamdden a sefydliadau gofal cymdeithasol. Mae’n defnyddio’i hadnoddau ei hun, neu mae’n gweithio gyda phartneriaid, i ddarparu arbenigedd dylunio eiddo ac adeiladu ar gyfer llawer o brif brosiectau buddsoddiadau cyfalaf y cyngor, gan gynnwys y rhaglen Moderneiddio’r Ddarpariaeth Addysg a Safon Tai Sir Gaerfyrddin. Mae hefyd yn cynnig cyngor arbenigol ar gyfrifoldebau iechyd a diogelwch ym maes adeiladau, ac mae’n sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol. Un o’i brif nodau yw datblygu potensial ei weithlu, a gweithio gyda darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu rhaglenni prentisiaeth.
www.sirgar.gov.uk
Lloyd & Gravell Ltd

Mae Lloyd & Gravell Ltd yn fusnes teuluol yn Sir Gaerfyrddin sy’n darparu gwasanaethau adeiladu, rheoli gwastraff a phlymio a gwresogi proffesiynol o’r safon uchaf. Fe’i sefydlwyd yn 1991 a’i ymgorffori yn 1998, ac mae Lloyd & Gravell Ltd wedi cwblhau nifer o gontractau’n llwyddiannus yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Mae’r cwmni’n parhau i gryfhau a datblygu ac ar hyn o bryd mae’n cyflogi gweithlu lleol o 58.
Bu Lloyd & Gravell Ltd yn rhan o fframwaith adeiladu Cyngor Sir Caerfyrddin er 2007.
www.lloydandgravell.co.uk
Coleg Sir Gâr
Mae'r Ganolfan Amgylchedd Adeiledig yng Ngholeg Sir Gâr ar flaen y gad o ran ei darpariaeth a'i llwyddiant mewn hyfforddiant ym maes adeiladu. Mae llwyddiant y myfyrwyr ac ansawdd yr hyfforddiant wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol mewn cystadlaethau sgiliau a gynhelir gan gyrff y mae'r diwydiant yn eu harwain megis SgiliauAdeiladu a'r Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB). Mae gweithio mewn partneriaeth ag amrywiol gyrff a chyrff o'r diwydiant adeiladu wedi rhoi bod i nifer o gynlluniau llwyddiannus, sydd wedi ennill gwobrau, megis y Cynllun Rhannu Prentisiaethau a chynllun y Pink Ladies. Mae Coleg Sir Gâr, sy’n un o’r colegau addysg bellach mwyaf yng Nghymru, wedi buddsoddi’n helaeth mewn amgylchedd pwrpasol newydd sbon sy’n cynnig cyfleusterau mewn nifer o ddiwydiannau adeiladu, gan gynnwys gosod offer nwy ac ynni’r haul. Mae'r ganolfan yn cynnig amrywiaeth eang o ddarpariaeth ar ei champws yn Rhydaman, o raglenni sydd â chysylltiad â'r ysgolion hyd at gymwysterau ar lefel gradd.
www.colegsirgar.ac.uk
Carmarthenshire Construction Training Association Ltd (CCTAL)
Sefydlwyd CCTAL mwy na 22 o flynyddoedd yn ôl i ddarparu fforwm i ddatblygu ac i weithredu gofynion hyfforddiant cyflogwyr lleol ym maes adeiladu. Yn 2001 daeth yn gymdeithas hyfforddiant adeiladu annibynnol gyntaf Cymru. Yn 2008 newidiodd ei statws gan fynd yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Yn ogystal, mae'n gysylltiedig â SgiliauAdeiladu (y Cyngor Sgiliau Sector).
www.cctal.co.uk