Systemau Draenio Preifat
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 02/10/2008
Systemau Draenio Preifat 

Mae'r adain Iechyd Cyhoeddus yn delio â llawer o broblemau oherwydd draeniad diffygiol ar draws y sir. Gall diffygion effeithio ar un tŷ, stryd gyfan, neu hyd yn oed ystâd gyfan. Gall cam-gysylltu hefyd achosi llygredd yn nyfrgyrsiau.

Gellir rhannu draeniad rhwng Draeniad Cyhoeddus (trwy bibellau) a Draeniad Preifat. Mae'r system Gyhoeddus yn gyfrifoldeb yr ymgymerwr carthffosiaeth, sef Dŵr Cymru. Systemau preifat yw'r rhai nas mabwysiadwyd gan Ddŵr Cymru, ac maent yn aros yn gyfrifoldeb y perchennog sy'n defnyddio'r system.

Mae systemau preifat yn cynnwys y rhai sy'n gwasanaethu un adeilad, yn ogystal â'r rhai sy'n gwasanaethu nifer o adeiladau.

Mae problemau cyffredin yn cynnwys :

  • systemau wedi'u blocio, sy'n achosi aroglau drwg neu hyd yn oed yn achosi i garthion orlifo
  • gall draeniad sydd wedi'i niweidio hwyluso gweithgarwch cnofilod trwy roi mynediad i lygod mawr i ardaloedd uwch ben y tir

Os bydd y fath broblemau'n codi ar systemau Preifat, gall yr Awdurdod, lle bo angen, roi Rhybudd Statudol ar y perchnogion sy'n elwa o’r system, gan fynnu gwaith adferol.