Gall cŵn swnllyd darfu ar gymdogion gan achosi poen meddwl iddynt. Yn aml, mae’r broblem yn digwydd pan fydd perchennog y ci allan o’r tŷ. Yn gyfreithiol, gall ci swnllyd fod yn niwsans sŵn statudol os yw’n broblem barhaol, ac os yw’n amharu’n sylweddol ar eich lles, eich cysur neu eich gallu i fwynhau eich eiddo.
Pan gaiff cwyn ei gwneud i’r Cyngor ynghylch y math hwn o niwsans sŵn, bydd yn cael ei harchwilio gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a Swyddogion Technegol Adain Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd.
Os yw’r gwyn yn un gyfiawn, gellir cyflwyno hysbysiad lleihau sŵn o dan Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990. Mae’n bosibl y bydd yr hysbysiad yn nodi bod angen atal y sŵn yn gyfan gwbl neu ei gyfyngu i amserau penodol o’r diwrnod. Rhoir yr hysbysiad i’r sawl sy’n gyfrifol am y sŵn, ac mae gan hwnnw/honno yr hawl i apelio o fewn 21 diwrnod o’r dyddiad y caiff yr hysbysiad ei wneud.
Os oes ci swnllyd yn eich poeni chi, rhowch wybod i ni am y cyfeiriad lle y cedwir y ci, ac, os ydych yn eu gwybod, rhowch fanylion y sawl sy’n gyfrifol am y ci hefyd. Ar ôl hynny, byddwn yn anfon ffurflen i chi ei llenwi, cyn cynnal unrhyw archwiliad.