Mae'r adran Iechyd Cyhoeddus yn monitro ansawdd dŵr o nifer o ffynonellau, megis dŵr yfed, dŵr ymdrochi, a phyllau nofio.
Dŵr Yfed
Mae dŵr yfed yn cynnwys y cyflenwad dŵr pibell a hefyd dŵr yfed preifat. Ar hyn o bryd, y mae oddeutu 3,500 o ffynonellau dŵr preifat yn ardal yr awdurdod.
Cyfrifoldeb Dŵr Cymru yw'r prif gyflenwad dŵr, ewch i am fwy o wybodaeth.
Dŵr Ymdrochi
Yn ystod y tymor nofio (Mai - Medi), cymerir samplau bacteriolegol wythnosol ar chwe thraeth nas dynodir yn benodol fel rhai ymdrochi. Y rhain yw Llanelli, Porth Tywyn, Glanyfferi, Bae Caerfyrddin, a Morfa Bychan.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn cymryd samplau o'r ddau draeth a ddynodir yn benodol fel traethau ymdrochi, sef Pen-bre a Phentywyn.