Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod pwysigrwydd cael dynesiad systematig a chyson tuag at orfodaeth Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle ac ati, 1974 a deddfwriaeth gysylltiol.
Polisi Cyngor Sir Caerfyrddin yw ceisio diogelu iechyd, diogelwch a lles pobl yn y gweithle a diogelu aelodau’r cyhoedd all wynebu peryglon o weithgareddau gwaith-gysylltiol.
Polisi Cyngor Sir Caerfyrddin yw mabwysiadu rôl addysgiadol a pherswadiol o ran gorfodaeth iechyd a diogelwch.
Bydd yr holl gamau gorfodaeth yn seiliedig yn bennaf ar asesiad o risg ac fe fyddant yn gymesur er mwyn gofalu am iechyd, diogelwch a lles pobl yn y gweithle, y sawl a effeithir gan weithgareddau gwaith a’r cyhoedd. Bydd yn rhoi ystyriaeth i ddifrifoldeb y digwyddiad, yr hanes blaenorol sy’n gysylltiedig â’r eiddo, y perchennog, y person sy’n eu rheoli, y person cyfrifol a’r angen i sicrhau nad yw’r digwyddiad yn cael ei ail-adrodd.