Mae Carbon Monocsid (CO) yn nwy di-liw, diarogl, di-flas, gwenwynig sy'n cael ei gynhyrchu pan na fydd tanwydd sy'n seiliedig ar garbon (gan gynnwys nwy, olew, pren, a glo) ddim yn llosgi'n gyfan gwbl. Pan na fydd y tanwydd yn llosgi'n iawn, cynhyrchir gormod o CO, sy'n wenwynig.
Ellwch chi mo'i weld, ei flasu, neu ei wynto, ond gall CO ladd yn gyflym ac yn ddirybudd. Mae lefel nad yw'n lladd yn gallu achosi niwed difrifol i iechyd os ydy'r nwy yn cael ei anadlu dros gyfnod hir.
Beth yw symptomau gwenwyno gan garbon monocsid?
Gall symptomau cynnar gwenwyno gan garbon monocsid (CO) fod yn debyg i symptomau'r ffliw. Mae symptomau y dylid gwylio amdanynt yn cynnwys:
Blinder, syrthni, pen tost, pendro, cyfog, chwydu, poen yn y fron, diffyg anadl, poen yn y bola, ymddygiad ansicr, problemau gweld.
Camau ataliol yn erbyn perygl carbon monocsid?
- Gwnewch yn sicr fod unrhyw waith a wneir ar offeryn nwy yn cael ei wneud gan osodwr sydd wedi'i gofrestru gyda CORGI, ac sy'n gymwys i wneud y gwaith penodol.
- Rhaid i offerynnau nwy a ffliwiau gael eu gosod yn gywir, a'u gwasanaethu'n rheolaidd, gan berson cymwys.
- Dylech sicrhau bob amser fod digon o awyr ffres yn yr ystafell sy'n cynnwys yr offeryn.
- Gwnewch yn siŵr nad yw'r simnai neu'r ffliw ddim wedi'i flocio, a gwnewch yn siŵr nad yw'r fentiau wedi'u gorchuddio.
- Sicrhewch fod ysgubwr simneiau cymwys yn sgubo'ch simnai o'r pen i'r gwaelod o leiaf unwaith y flwyddyn.
- os oes gennych offerynnau sy'n defnyddio tanwydd ffosil arall, sicrhewch eu bod yn cael eu gwasanaethu a'u cynnal gan berson cymwys.
- Gosodwch ganfodydd carbon monocsid yn eich cartref.