Ymchwilio i Ddamweiniau
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 01/10/2008
Ymchwilio i Ddamweiniau 

Mae'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle ac ati, 1974, yn datgan fod dyletswydd gyfreithiol adrodd anafiadau, clefydau, a digwyddiadau peryglus penodol i'r awdurdod gorfodi priodol. I gael rhagor o wybodaeth ar yr hyn y mae angen adrodd amdano o dan RIDDOR (Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus, 1995), cliciwch ar y ddolen isod:

www.hse.gov.uk/riddor/index.htm

Fel cyflogwr, person hunangyflogedig, neu berson sy'n rheoli safle gwaith, mae gennych ddyletswyddau cyfreithiol o dan RIDDOR sy'n gofyn i chi adrodd a chofnodi rhai damweiniau yn gysylltiedig â gwaith trwy'r dull cyflymaf posib.

Rheswm dros Adrodd:

• I ymchwilio i achos y damwain
• I rwystro'r un peth rhag digwydd eto
• I alluogi'r rhai sy'n gyfrifol i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Bydd y Tîm Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i unrhyw ddigwyddiad a adroddir, gan ddibynnu ar natur a maint y digwyddiad, yr hanes blaenorol o ddigwyddiadau yn y safle, ac os oes dimensiwn ehangach, cenedlaethol i'r digwyddiad.

Beth ddylid ei adrodd?

- Pob anaf angheuol
- Pob anaf difrifol, sef:
- torasgwrn
- torri aelod i ffwrdd
- datgymaliad
- colli golwg
- llosgi'r llygad yn gemegol neu trwy fetel poeth
- sioc neu losgiad trydanol
- anaf sy'n arwain at hypothermia neu sydd angen adfywiad neu fynediad i'r ysbyty
- anadlu, amlyncu, neu amsugno sylweddau
- afiechyd aciwt o ganlyniad amlygiad i gyfryngau biolegol neu docsinau
- Anaf am fwy na thridiau:
- lle mae aelod o staff neu berson hunangyflogedig yn cael damwain, ac mae'r person i ffwrdd o'r gwaith neu'n methu â gweithio’n arferol am fwy na thridiau
- anafiadau i'r cyhoedd sy'n arwain at fynd â'r claf i'r ysbyty.
- clefydau sy'n gysylltiedig â'r gwaith
- digwyddiadau peryglus, lle mae rhywbeth yn digwydd nad yw'n arwain at anaf y mae'n rhaid ei adrodd, ond a all fod wedi gwneud.

Pwy sy'n gorfod llunio'r adroddiad?

• Y Cyflogwr
• Y person hunangyflogedig
• Person sy'n rheoli'r safle.

 
Manylion Cysyllt
 
Canolfan Gyswllt Digwyddiadau
Parc Busnes Caerffili
Caerffili
CF83 3GG
Ffôn: 0845 300 9923 (cost galwad lleol)
E-bost: riddor@natbrit.com