Hylendid Bwyd
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 01/10/2008
Hylendid Bwyd 

Mae perchnogion busnesau bwyd yn gyfrifol am sicrhau bod eu busnesau'n cydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006. Mae'r Rheoliadau hyn yn amlygu'r egwyddorion hylendid sylfaenol y mae'n rhaid i fusnesau bwyd eu dilyn o safbwynt staff, safleoedd, a thrin bwyd.

O dan y Rheoliadau, rhaid i chi fod â threfn effeithiol er mwyn osgoi llygriad, sicrhau cynhyrchu bwyd yn ddiogel, ac osgoi perygl i iechyd eich cwsmeriaid a'ch gweithlu. Rhaid i chi lunio, gweithredu, a chynnal system rheoli diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (DPPhRhC) er mwyn sicrhau fod y bwyd a gynhyrchir yn ddiogel i'w fwyta.

Er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o Hylendid Bwyd a sut i'w reoli, argymhellir i chi lawrlwytho, a chydymffurfio â, chyfarwyddyd ymarferol Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol.

Gellwch archebu copi o Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell o wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd trwy glicio ar y ddolen isod, neu trwy ffonio 0845 6060 667. Mae Bwyd Diogelwch, Busnes Gwell yn trafod rheolaeth diogelwch bwyd mewn ffordd ymarferol a di-jargon.

 
Manylion Cysyllt
 
food standards

Gellwch archebu copi o Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell o wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd trwy glicio ar y ddolen isod, neu trwy ffonio 0845 6060 667.