Mae Datblygu Cynaliadwy (DC) a wnelo â sicrhau gwell ansawdd bywyd i bawb heddiw ac i'r cenedlaethau i ddod drwy:
- Roi sylw cyfartal i elfennau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd datblygu,
- O ystyried goblygiadau tymor hir ein penderfyniadau, rhoi sylw i'r effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Mae DC yn berthnasol i bawb ohonom fel unigolion yn ein cartrefi, ac i'n cymunedau lleol, ac mae'n dangos bod yr hyn a wnawn yn lleol yn effeithio ar y byd yn gyfan.
Nid yw DC yn ymwneud â diogelu'r byd naturiol yn unig ond mae hefyd a wnelo â'n hiechyd, ein cyfleoedd gwaith, ein gallu i gyrraedd siopau a gwasanaethau, safon ein hisadeiledd trafnidiaeth a'n hymdeimlad o gymuned a lles.
Mae DC a wnelo ag integreiddio materion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol – sef ein bod yn trin y Byd fel petaem yn bwriadu aros yma.
Cyngor Sir Caerfyrddin a Datblygu Cynaliadwy
Mae Datblygu Cynaliadwy (DC) yn egwyddor sy'n arwain holl weithgareddau'r cyngor. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo DC drwy bolisïau, strategaethau a gwasanaethau'r Cyngor, a chodi ymwybyddiaeth am ffyrdd o fyw cynaliadwy ymhlith staff a chymunedau lleol.
Mae'r cyngor yn cyflogi dros 9,000 o staff sy'n darparu amrywiaeth o wasanaethau. Mae cyfleoedd sylweddol i bob gwasanaeth wneud ei ran yn lleihau faint o ynni a ddefnyddir, ailgylchu a mabwysiadu egwyddorion cynaliadwyedd wrth gaffael adeiladau a phrif asedau eraill.
Hefyd mae'n un o brif flaenoriaethau ein Bwrdd Gwasanaethau Lleol fel yr amlinellir yn eu hymrwymiadau i ‘Sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn sir gynaliadwy’.
Un o werthoedd craidd y Cyngor: Trin yr Amgylchedd â Pharch:
Ein nod yw arwain ym maes cynaliadwyedd - gwella ansawdd bywyd ar gyfer pobl leol a
gwarchod adnoddau'r Ddaear a diogelu'r amgylchedd