English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Argyymhellion a Syniadau  

Er mwyn i'ch cymuned ddod yn fwy cynaliadwy, mae'n bwysig cynnwys cynifer o aelodau o'ch cymuned â phosibl wrth gynllunio'r hyn yr ydych am ei wneud yn eich ardal leol ac wrth gynnal gweithgareddau.

Isod mae rhai syniadau ynghylch ffyrdd y gallwch gydweithio ag eraill yn eich cymuned er mwyn dod yn bentref neu'n dref fwy cynaliadwy:

  • Sefydlu rhandir cymunedol ar gyfer tyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun
  • Trefnu sesiynau codi sbwriel cyson er mwyn tacluso ardaloedd neu er mwyn gwella a chynnal a chadw ardaloedd bywyd gwyllt lleol
  • Trefnu cyfnewidfeydd i leihau gwastraff - beth am drefnu digwyddiad hwyl a chyfnewid eich dillad diangen, celfi, bric-a-brac ac ati?
  • Prynu'n lleol
  • Sefydlu clwb tanwydd er mwyn arbed arian ar eich biliau ynni
  • Sefydlu clwb rhannu lifft er mwyn lleihau allyriadau carbon
  • Compostio cymunedol
  • Cynnal gweithgareddau er mwyn gweithio gyda'r gymuned ehangach, er enghraifft cynnwys ysgolion lleol a phobl ifanc neu gysylltu â digwyddiadau mewn pentrefi neu drefi eraill
  • Neilltuo cyfrifoldebau a dyletswyddau i aelodau penodol o'r gymuned a/neu benodi wardeiniaid
  • Mabwysiadu safle ailgylchu - helpu i gadw'r llecyn yn lân ac yn daclus, rhoi gwybod am unrhyw broblemau, rhoi gwybod i'r Cyngor os yw'r biniau ailgylchu yn llawn a chynyddu ymwybyddiaeth ynghylch ailgylchu. Yn ogystal bydd y grŵp yn derbyn taliad unwaith yn unig i'w ddefnyddio er budd y gymuned leol.
  • Cyfarfodydd effeithlonrwydd ynni cartref – cynnal cyfarfodydd cyhoeddus a threfnu i ymgynghorydd ynni cartref y Cyngor fod yn bresennol
  • Ystyried a allwch fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy ar gyfer eich neuadd gymunedol
  • Rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd drwy ddefnyddio placiau, hysbysfyrddau, byrddau deunydd esboniadol a theithiau cerdded ag arwyddion.

Gallwch hefyd gwneud newidiadau syml yn eich bywyd bob dydd.

  • Beicio, cerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle gyrru
  • Gosod casgen ddŵr ar gyfer rhoi dŵr i flodau a golchi'r car
  • Prynu'n lleol neu dyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun ble bynnag y gallwch - mewn gerddi, ar siliau ffenestri, ar falconïau, mewn hen fasgedi
  • Cael biniau ar wahân yn y cartref ac yn y gweithle er mwyn sicrhau bod ailgylchu'n hawdd ac yn syml
  • Coginio llawer ar y tro i arbed arian, amser ac ynni
  • Mynd ati i waredu pethau a helpu achos da drwy roi eich eitemau diangen i siopau elusennol/cyfnewidfeydd
  • Gofyn am Archwiliad Ynni Cartref gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (0300 123 1234) - gallech arbed llawer o arian

Byddwch yn rhan o’r Her Gymunedol

Cwblhewch ein ffurflen arlein i fod yn rhan o’r Sialens Gymunedol, neu cysylltwch â cynaliadwyedd@sirgar.gov.uk neu 01267 224902.

Cofrestru'r Yr Her Gymunedol

 

Dilynwch ar Twitter Hoffiwch ar Facebook
Tudalen wedi ei diweddaru ar 20/3/2013