Masnach Deg

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Masnach Deg 

Sir Gaerfyrddin yn cadw ei statws Masnach Deg

Mae'n swyddogol – mae Sir Gaerfyrddin wedi ennill statws Masnach Deg dair blynedd yn olynol.

Mae'r sir wedi cael cydnabyddiaeth am ei chefnogaeth barhaus o ran hyrwyddo'r nwyddau Masnach Deg sydd ar gael, ynghyd â'r defnydd ohonynt. Bellach mae nifer fawr o siopau lleol, caffis, a bwytai, gan gynnwys Tesco, Morrisons, Asda, Marks and Spencer, a Lidl yn gwerthu nwyddau Masnach Deg. Am bythefnos bob blwyddyn mae cymunedau ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig yn dathlu Pythefnos Masnach Deg er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o nwyddau a'r gwerthiant ohonynt. Er mwyn rhoi sylw i'r digwyddiad, ac fel rhan o ymgyrch gynaliadwyedd 'Cychwyn Callio' y Cyngor, ymunodd y Cyngor â'r cyfanwerthwr lleol Alan Price o gwmni Café Fair Trade i brofi gwahanol baneidiau o goffi a the.

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gynaliadwyedd: “Mae'r Cyngor yn hybu'r defnydd o nwyddau Masnach Deg cymaint â phosib, ac mae'n hynod o falch o gael ennill y statws hwn unwaith yn rhagor. Mae Masnach Deg yn annog pobl i fod yn gyfrifol ac yn gynaliadwy o ran yr amgylchedd, gan roi bod yn aml i ffyrdd mwy naturiol ac organig o gynhyrchu, a thrwy hynny leihau'r effaith ar yr amgylchedd."

Diben Masnach Deg yw sicrhau bod ffermwyr a gweithwyr yn y byd datblygol ar eu hennill yn sgil gwell prisiau, amodau gwaith boddhaol, cynaliadwyedd lleol, a thelerau masnachu teg. Trwy osod rheidrwydd ar gwmnïau i dalu prisiau cynaliadwy, mae Masnach Deg yn mynd i'r afael â'r annhegwch sydd ynghlwm wrth fasnachu confensiynol, sydd gan amlaf wedi gwahaniaethu yn erbyn y cynhyrchwyr tlotaf a gwannaf yn y gorffennol. Mae Masnach Deg yn galluogi'r cynhyrchwyr hynny i wella eu sefyllfa ac i gael rhagor o reolaeth dros eu bywydau.

Cafodd cwmni coffi Café Fair Trade, sydd â safle ym Mhorth Tywyn, ei ffurfio 11 mlynedd yn ôl i gyflenwi coffi Masnach Deg i weithleoedd a siopau coffi. Dywedodd Alan Price, y perchennog: “Rydym ni'n cael ein ffa coffi gan rai o gynhyrchwyr coffi gorau'r byd, a chan ein bod yn prynu drwy Fasnach Deg rydym ni'n cael y cynnyrch gorau sy'n golygu ein bod yn gallu gwneud coffi gwych."

I gael rhagor o wybodaeth am ddiodydd Masnach Deg, ewch i www.cafefairtrade.co.uk

Ystyr Masnach Deg yw creu cyfleoedd i gynhyrchwyr yn y byd sy'n datblygu gael pris teg am eu nwyddau ac i weithio'u ffordd allan o dlodi. Mae'n gyfle iddynt wella eu bywydau a bywydau eu teuluoedd, ac mae mor syml â'r dewisiadau fyddwch chi'n eu gwneud wrth siopa bob wythnos.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.fairtradewales.com

Cyngor Masnach Deg

 

Dilynwch ar Twitter Hoffiwch ar Facebook
Tudalen wedi ei diweddaru ar 10/4/2013