A wyddech chi eich bod yn gallu benthyca monitor ynni AM DDIM? Gallwch ddefnyddio'r teclyn hwn yn eich cartref er mwyn helpu i arbed ynni ac i leihau eich biliau.
Mae'r teclynnau hyn ar gael yn unrhyw un o'r 14 llyfrgell yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys y pum llyfrgell deithiol.
Gallwch fenthyca'r uned am bythefnos. Mae'r uned yn rhwydd i'w defnyddio, a bydd llyfryn cyfarwyddiadau yn dod gyda hi.
Prydain, o blith gwledydd Ewrop, yw'r waethaf am wastraffu ynni. Mae gan bobl Prydain arferion gwael megis gadael cyfarpar ynghynn ond yn segur ('standby') ac mae hyn yn costio mwy nag £11 biliwn y flwyddyn.
Ar gyfartaledd mae aelwydydd Prydain yn gwario tua £1,300 y flwyddyn ar ynni. Gallai gadael PlayStation 3 ynghynn ond heb ei ddefnyddio (“idle mode”) ychwanegu £164 y flwyddyn at eich bil trydan!
Bydd yr uned arddangos (gweler y llun isod) yn dangos ichi faint o drydan rydych yn ei ddefnyddio a faint mae'n ei gostio.

I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ynni'n effeithiol yn y cartref cysylltwch;
Graham Harries
Swyddog Effeithlonrwydd Ynni Cartref
Y Tîm Gwella Cartrefi,
Y Gwasanaethau Tai,
email: gharries@carmarthenshire.gov.uk
Tel: 01554 742254
I gael cyngor annibynnol ynghylch arbed ynni yn rhad ac am ddim, cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni drwy ffonio 0800 512 012 neu drwy fynd i: www.energysavingtrust.org.uk