English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 31/3/2009
Eco-Ysgolion 

Mae'r rhaglen Eco-Ysgolion yn gynllun rhyngwladol  sy'n galluogi i ddatblygu cynaliadwy fod yn rhan bwysig o fywyd ac ethos ysgolion.

Mae'r cynllun gwobrwyo hwn wedi'i gynnwys yn rhan o'r cwricwlwm ac mae'n cael pawb yng nghymuned yr ysgol i fod yn rhan o wella amgylchedd yr ysgol. Cadwch Gymru'n Daclus sy'n gweinyddu'r cynllun yng Nghymru.

Yn ystod 2008 daeth Sir Gaerfyrddin yn sir gyntaf yng Nghymru i dderbyn 50 o Faneri Gwyrdd Eco-Ysgolion

Ar hyn o bryd mae 127 o ysgolion yn y sir wedi cofrestru ar y Rhaglen Eco-ysgolion, gyda chyfanswm o 34 ysgol wedi cael gwobr y Faner Werdd:

  • Mae 33 ysgol yn mynd am y Wobr Arian
  • Mae 22 ysgol yn mynd am y Wobr Efydd
  • Mae 49 ysgol wedi ennill Gwobr y Faner Werdd

Gwobrwywyd cyfanswm o 71 Baner Werdd

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:  Tina Brice, Swyddog Cynaliadwyedd, 01267 225147, TMBrice@sirgar.gov.uk