A hoffech chi wneud gwahaniaeth yn eich cymuned?
Ymunwch â Her Gymunedol Sir Gaerfyrddin nawr! Mae'r Cyngor, mewn cydweithrediad â'r Llanelli Star a'r Carmarthen Journal wedi lansio ymgyrch 12 mis i annog cymunedau i fynd ati i helpu i leihau eu heffaith ar y blaned, lleihau eu hôl troed carbon a gwella'r ardal lle maent yn byw.
Gallwn ni eich helpu chi i wneud hyn!
Mae'r her eisoes wedi ysbrydoli pobl ledled y sir i weithredu ac mae grwpiau wedi datblygu eu ffyrdd arloesol eu hun i ddiogelu'r amgylchedd ac i arbed adnoddau. Mae llawer o'r prosiectau hyn wedi cael eu cynnwys yn ein Cyfeirlyfr Cymunedol. Rydym ni eisiau i ragor o bobl ymuno nawr. Os ydych yn aelod o fudiad neu os gallwch greu grŵp newydd i helpu i wneud gwir wahaniaeth yn eich cymuned rydym am glywed gennych.
Os ydych yn cymryd camau eisoes a heb ddweud wrthym, rydym am glywed gennych. Bydd y syniadau sydd wedi cael yr effaith fwyaf yn derbyn gwobr er mwyn cydnabod y cyfraniad.
Darllenwch E-Fwletin yr Her Gymunedol
Byddwch yn rhan o’r Sialens Gymunedol
Cwblhewch ein ffurflen arlein i fod yn rhan o’r Sialens Gymunedol, neu cysylltwch â cynaliadwyedd@sirgar.gov.uk neu 01267 224902.