Gofynnir i gymunedau gymryd y "Cam Cyntaf" i fywyd gwell a dechrau Rhywbeth Da yn Sir Gâr...
Ym mis Medi, lansiwyd Sialens Gymunedol Sir Gâr, gan Dywysog Cymru fel rhan o Ŵyl “Cam Cyntaf” Cymru yng Ngardd Botaneg Genedlaethol Cymru, ac mae’n golygu ceisio lleihau ein hôl troed a'n effaith ar y blaned. Dilyniant yw hwn i’r cynllun peilot a gymerodd lle yng Nglan-y-fferi yn ystod 2009 i helpu trigolion i leihau eu hôl troed carbon, ac mae’n fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a’n partneriaid. Mae’r sialens agored hon yn cael ei roi i unigolion a grwpiau yn y sir, a bydd y rhain yn cael y cyfle a’r gefnogaeth i ddatblygu eu hatebion lleol ac arloesol eu hunain i’r heriau rydym yn eu hwynebu.
Bydd y prosiectau hynny sydd wedi cael yr effaith fwyaf yn cael eu cydnabod a’u dathlu yng Ngŵyl Cam Cyntaf Cymru yn 2011. Rydym yn mawr obeithio y bydd Sir Caerfyrddin ar flaen y gad o ran menter Cam Cyntaf, â ysbrydolwyd gan Ei Fawrhydi Tywysog Cymru, ac mi fydd y Sialens yn derbyn ei gefnogaeth.
Mae'r Tywysog wedi canmol y sir yn ddiweddar am ei gwaith blaenllaw yn y maes cynaliadwyedd, ac mae'n gobeithio y bydd y Sialens yn gatalydd i ehangu'r gwaith yn ein cymunedau.
Gofynnir i unigolion a grwpiau lofnodi eu parodrwydd i ymateb i’r sialens, a hefyd i awgrymu ffyrdd newydd y gall eu cymuned ddatblygu prosiectau lleol.
I gofrestru anfonwch eich Ffurflen gofrestru at:
cynaliadwyedd@sirgar.gov.uk.
Am wybodaeth pellach, neu i dderbyn copi o'r Pecyn Gwybodaeth, cysylltwch ag Eurgain Powell ar: 01267 224902 / ehpowell@sirgar.gov.uk.
Comm Chall flyer CYM.pdf
Comm Chall flyer.pdf
Comm Chall Reg Form.doc