
Mae'r Fersiwn Adneuol o Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin yn pennu strategaeth a pholisïau a fydd yn llywio'r ffordd y bydd y sir yn newid ac yn cael ei datblygu hyd at 2021. Mae'r Cynllun yn clustnodi tir at ddibenion codi tai a chreu swyddi, gan nodi lle y caiff y defnyddiau hyn a defnyddiau eraill eu caniatáu. Hefyd mae'n pennu'r ardaloedd lle mae polisïau ar waith i ddiogelu'r amgylchedd rhag datblygiadau amhriodol.
Lluniwyd y Fersiwn Adneuol o'r CDLl yn dilyn cyfranogi ac ymgynghori helaeth. Roedd y dogfennau canlynol ar gael at ddibenion ymgynghori o 22 Mehefin 2011 tan 19 Awst 2011 am 4:30pm:
l Y Fersiwn Adneuol o Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin
l Arfarniad Cynaliadwyedd (gan gynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol) ac
l Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Hefyd cyhoeddwyd:
l Datganiad Ymgynghori cychwynnol
Cliciwch yma i gael golwg ar y dogfennau uchod. Mae'r ddolen gyswllt hon yn cynnwys dolen i lawrlwytho meddalwedd Adobe, sydd ei angen arnoch i gael golwg ar y Cynllun.
Mae'r Papurau Pwnc a ddefnyddiwyd wrth lunio cynnwys y Fersiwn Adneuol o'r Cynllun ar gael yma.
Mae'r Dystiolaeth Gefndir a ddefnyddiwyd wrth lunio cynnwys y Fersiwn Adneuol o'r Cynllun, ynghyd â'r Profion Cadernid - Hunan-asesiad ar gael
yma.
Sylwadau ar fersiwn Adneuol y CDLl
Derbyniwyd nifer o sylwadau ynghylch polisïau a thestun fersiwn adneuo y CDLl, yr Adroddiad Arfarniad ar Gynaliadwyedd a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd sydd ddim yn ymwneud yn benodol â safleoedd. Mae’r Cyngor yn gwneud rhain ar gael er mwyn eu harchwilio. Mae’r rhestr ar gael trwy clicio ar y dolenni isod (Ar gael yn Saesneg yn unig):
l Datganiad Ysgrifennedig Fersiwn Adneuo y CDLl
l Adroddiad ar Arfarniad Cynaliadwyedd
l Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Mae’r sylwadau a derbyniwyd ar gael u’w gweld trwy chwilio am Rhif y Sylwadau yn y blwch chwilio (e.e. D5266). Mae’r sylwadau ynghylch yr Adroddiad Arfarniad ar Gynaliadwyedd a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd hefyd ar gael trwy ddefnyddio’r blwch chwilio (e.e. SAR00103 neu HRA00025, yn ôl eu trefn). Mae rhain ar gael u’w gweld yma.
Nid yw rhain yn cynnwys sylwadau ar safleoedd amgen (y sylwadau ar ddyrannu safleoedd) ac nid yw cyhoeddiad y sylwadau yma yn rhan o’r ymgynghoriad ar ‘Safleoedd Amgen’ a nid ydynt yn agored i gwneud sylwadau arnynt.
Mae rhestr o’r sylwadau hwyr ar gael i’w gweld yma.