Gwella eich cartref - Canllaw ynghylch Newid yn yr Hinsawdd
Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd nawr. Gall diwrnodau twymach, hafau sychach, glaw trwm, stormydd, a moroedd sy'n codi fwyfwy olygu bod cartrefi'n fwy tebygol o ddioddef effeithiau llifogydd a bod ein tai'n mynd yn anghysurus ar ddiwrnodau twym iawn.
A ydych yn ystyried gwneud gwelliannau i'ch cartref?
Mae'r Canllaw ynghylch Newid yn yr Hinsawdd yn awgrymu prosiectau ac 20 o gamau y gallwch eu cymryd i wneud y gwelliannau hyn ac i helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys addasu eich llofft a newid y goleuadau.
Pa faint bynnag o sgiliau Crefftau'r Cartref sydd gennych, beth bynnag yw eich cyllideb neu'ch prosiect, mae'r Canllaw hwn yn nodi'r hyn fydd fwyaf effeithiol o ran lleihau carbon deuocsid, gostwng eich biliau, a gwella pa mor gysurus a diogel yw eich cartref.
Ffyrdd syml o helpu i leihau ôl-troed carbon Cymru
Mae dros 40 y cant o'r gollyngiadau carbon deuocsid yn y Deyrnas Unedig yn deillio'n uniongyrchol o'r hyn rydym yn ei wneud fel unigolion - er enghraifft a gwresogi ein cartrefi a defnyddio trydan ynddynt.