Ceisiadau CyfredolBydd manylion ceisiadau ar gael i bobl gael golwg arnynt 4-6 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cofrestru.
Nid ydym yn cyhoeddi dogfennau sy'n cynnwys manylion personol, meddygol, neu ariannol yr unigolion sy'n ymwneud â'r cais cynllunio neu'r dogfennau atodol, oni bai bod rheswm dilys dros wneud hynny. Hefyd, byddwn yn gwaredu / golygu yr holl lofnodion a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â chyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.
Ceisiadau y penderfynwyd arnynt
Ar gyfer ceisiadau a ddaeth i law er 1 Ionawr 2004, bydd modd gweld y cofnod penderfyniadau a’r cynlluniau 4-7 niwrnod gwaith ar ôl dyddiad y penderfyniad. Yn unol â chanllawiau PARSOL, ni fydd y dogfennau eraill i’w gweld ar ôl penderfynu ar y cais.
Hysbysiadau Penderfyniadau Cynllunio
— Os oes arnoch angen copïau o hysbysiadau penderfyniadau cynllunio cyn 2004, anfonwch e-bost at: planningsearches@sirgar.gov.uk (ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn).