Mae’r adain Rheoli Datblygu yn delio â cheisiadau cynllunio o bob math. Gallant gynnwys estyniadau, garejis, preswylfeydd newydd, newid defnydd tir neu adeiladau presennol, addasu adeiladau, codi adeiladau newydd, arddangos hysbysebion a gwaith ar adeiladau rhestredig.
Chwilio am Geisiadau Cynllunio
l Cliciwch yma neu ar y logo e-Planning uchod i chwilio am rifau ceisiadau cynllunio gan ddefnyddio e-Planning, cael golwg ar y dogfennau a'r darluniau cysylltiedig a chyflwyno sylwadau ar-lein.
l Cliciwch yma i weld canllaw defnyddwyr e-Planning.
Gwasanaeth ar-lein yw e-Planning sy'n caniatáu ichi chwilio am geisiadau cynllunio ac apelau cysylltiedig a chael golwg arnynt. Mae'n cael ei ddiweddaru mewn amser real.
Nid yw'r wybodaeth gynllunio yn cynnwys hanes llawn unrhyw safle ac ni ddylid ei defnyddio yn lle'r wybodaeth a geir trwy chwiliad pridiannau tir lleol a ffurfiol.
Mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn fanwl-gywir ac yn ddibynadwy ond nid yw'n gwneud dim sylwadau nac yn rhoi gwarantau ynghylch manwl-gywirdeb y wybodaeth na pha mor gyflawn neu addas ydyw at unrhyw ddiben ac nid yw'n derbyn cyfrifoldeb dros y defnydd a wneir ohoni na'i dibynadwyedd.
Hysbysiadau Penderfyniadau Cynllunio
Rydym wrthi'n darparu hysbysiadau penderfyniadau cyn 2004 ar-lein. Cliciwch yma i nodi rhif y cais cynllunio y chwilir amdano.

Cyfeirnodau Ceisiadau Cynllunio ~ 1974 i'r dyddiad presennol.
Os oes arnoch angen copïau o hysbysiadau penderfyniadau cynllunio cyn 2004 nad ydynt ar gael ar-lein, anfonwch e-bost at: planningsearches@sirgar.gov.uk (ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn).
Ceisiadau Cyfredol
Mae'r wefan yn cael ei diweddaru'n ddyddiol. Gellir gweld manylion y cais 1 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cofrestru.
Nid ydym yn cyhoeddi dogfennau sy'n cynnwys manylion personol, meddygol, neu ariannol yr unigolion sy'n ymwneud â'r cais cynllunio neu'r dogfennau atodol, oni bai bod rheswm dilys dros wneud hynny. Hefyd, byddwn yn gwaredu / golygu yr holl lofnodion a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â chyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.
Ceisiadau y Penderfynwyd arnynt
Gellir gweld y cynlluniau a'r hysbysiad penderfyniad 4-7 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad y penderfyniad yn achos ceisiadau a ddaeth i law ers 1 Ionawr 2004. Yn unol â chanllawiau PARSOL(Gwasanaethau Cynllunio a Rheoleiddio Ar-lein), ni fydd y dogfennau eraill yn cael eu harddangos unwaith y penderfynir ar y cais.
Hawlfraint
Gwarchodir cynlluniau, darluniau, a deunydd arall a gyflwynir i'r awdurdod lleol gan y Ddeddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988 (adran 47). Gallwch ond defnyddio deunydd sydd wedi ei lawrlwytho a/neu ei argraffu at ddibenion ymgynghori, i gymharu ceisiadau cyfredol â chynlluniau blaenorol, ac i gadarnhau bod datblygiadau wedi cael eu cwblhau'n unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd. Nid oes hawl gwneud rhagor o gopïau heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint yn gyntaf.