Gellir defnyddio e-fynediad i chwilio'r gronfa ddata gynllunio mewn amser go iawn am geisiadau cynllunio o 1 Ebrill 1996 hyd heddiw.
Darllenwch yr hysbysiadau pwysig cyn dechrau arni.
Cliciwch yma i ddefnyddio e-fynediad
Hysbysiadau Penderfyniadau Cynllunio
l Os oes arnoch angen copïau o hysbysiadau penderfyniadau cynllunio cyn 2004, anfonwch e-bost at:
planningsearches@sirgar.gov.uk (ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn).
Hysbysiad Pwysig
Cliciwch yma a darllenwch y canlynol:
Mae'r wefan hon ond yn cynnwys y cofnodion y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu cadw ar gyfrifiadur, ac felly nid yw'n gronfa ddata gyflawn o'r holl wybodaeth rydym yn meddu arni. Peidiwch â dibynnu ar y wybodaeth ar y wefan hon fel dewis arall yn lle'r chwiliadau traddodiadol lle mae'n hollbwysig cael gwybodaeth drylwyr. Er ein bod yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod y wybodaeth a gyflwynir ar y wefan hon yn fanwl gywir, nid ydym yn atebol nac yn gyfrifol mewn unrhyw fodd os byddwch yn dibynnu ar y wybodaeth a roddir ac yn dod i wybod yn y pen draw ei bod yn anghywir.
Os oes gennych reswm dros amau fod y wybodaeth yn anghywir, cysylltwch â ni'n syth drwy anfon e-bost at edent@sirgar.gov.uk fel y gellir ymchwilio i'r mater a gwneud unrhyw gywiriadau.
Mae ein gwefan yn rhestru gwybodaeth destunol sylfaenol am yr holl geisiadau o Ebrill 1996 ymlaen. Gellir cael golwg ar ddogfennau pellach megis cynlluniau ar gyfer yr holl geisiadau yn ôl hyd at Ionawr 2004.