Cyfarwyddyd Technegol
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 27/4/2010
Cyfarwyddyd Technegol 

Mae’r dolenni ar y chwith yn cynnwys gwybodaeth bellach am destunau’r Cyfarwyddyd Technegol isod:-
The links on the left contain further information on the Technical Guidance topics below:-

l Dogfennau Cymeradwy

Approved Documents
Mae’r Rheoliadau Adeiladu wedi’u hategu gan Ddogfennau Cymeradwy sy’n nodi sut y gellir sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau. 


l Manylion Adeiladu Achrededig ar gyfer Rhan L

Mae Manylion Adeiladu Achrededig wedi’u datblygu i gynorthwyo’r diwydiant adeiladu wrth gyflawni’r safonau perfformiad sydd eu hangen i ddangos eu bod yn cydymffurfio â gofynion effeithlonrwydd ynni (Rhan L) y Rheoliadau Adeiladu.


l Newidiadau i Ran G o'r Ddogfen Gymeradwy a Newidiadau i'r Cynllun 'Person Cymwys' (CPS)

Mae'r Offeryn Statudol hwn hefyd yn newid Cynlluniau 'Person Cymwys' (CPS) y Rheoliadau Adeiladu ac yn cyflwyno mân newidiadau technegol i Ran G o’r Rheoliadau Adeiladu. Daeth y newidiadau i Ran G 2010 a'r Cynllun 'Person Cymwys' yn weithredol ar 6 Ebrill 2010. Gellir lawrlwytho fersiwn 2010 o'r Ddogfen Gymeradwy o'r ddolen gyswllt allanol sydd ar y dde.


l Lliw a Chyferbynnedd – Canllaw i gynorthwyo wrth gydymffurfio â Dogfen Gymeradwy M


Bwriedir i’r canllaw hwn gynorthwyo wrth ddeall yr anawsterau a wynebir weithiau gan bobl â nam ar eu golwg, gan hybu gwell dealltwriaeth o ofynion y rheoliadau.


l Canllaw ar Gylchrediad Fertigol mewn Adeiladau Annomestig

Bwriedir i’r cyfarwyddyd yn y ddogfen hon helpu i sicrhau mwy o gysondeb wrth wneud penderfyniadau ynghylch pryd y byddai’n rhesymol derbyn darpariaeth lai na lifft cludo pobl lawn.


l Atal Llif Sain – Rhan E – Gofynion Profion Acwstig

Cynlluniwyd y nodyn cyfarwyddo hwn er mwyn cynghori ynghylch gweithredu'n gywir brofion cyn cwblhau (PCT) neu ddefnyddio manylion pendant fel dull o ddangos cydymffurfiaeth.


l Atal Llif Sain – Rhan E – Cyfarwyddyd ar Grefftwaith er mwyn Gwella'r Perfformiad Acwstig

Mae'r llyfryn hwn yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol i adeiladwyr tai ynghylch sut mae osgoi y  'deg diffyg pennaf' a all effeithio ar inswleiddio muriau cyd, lloriau cyd a'u haenau gwastad, rhag sŵn.






 
Manylion Cysyllt
 

Uned Rheolau Adeiladu
Adeilad 16
Parc Dewi Sant,
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA313HB

Ffôn: 01267 246012 / 246015
Ffacs: 01267 246017

e-bost: rheolaeth.adeiladu@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio