Manylion Adeiladu Achrededig ar gyfer Rhan L
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 28/3/2010
Manylion Adeiladu Achrededig ar gyfer Rhan L 

Datblygwyd y Manylion Adeiladu Achrededig i helpu'r diwydiant adeiladu i gyflawni'r safonau perfformiad sy'n ofynnol er mwyn dangos cydymffurfiaeth â gofynion effeithlonrwydd ynni (Rhan L) o'r Rheoliadau Adeiladu.

Mae'r manylion a'r adran ragarweiniol yn canolbwyntio ar sicrhau inswleiddio di-dor (gan leihau i'r eithaf ar fylchau oer) a sicrhau bod yr adeilad yn aerglos. Nid eu bwriad yw rhoi cyfarwyddyd manwl ar agweddau eraill ar berfformiad megis rheoli anwedd, awyriad, ac ati sy'n rhaid eu hystyried hefyd gan y tîm dylunio ac adeiladu.

Mae'r manylion yn cynnwys rhestrau gwirio a ddylai gael eu defnyddio gan y Dylunydd, yr Adeiladwr a'r Corff Rheoli Adeiladu er mwyn dangos cydymffurfiaeth.

Mae'r manylion wedi cael eu rhoi mewn grwpiau yn ôl y math o adeiladu generig. Argymhellir yn gryf fod yr adran ragarweiniol yn cael ei darllen ar y cyd â'r set benodol o Fanylion Adeiladu Achrededig er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r egwyddorion sy'n sail i'r manylion.


 

 

 

 

 

 



 

 
Manylion Cysyllt
 
Uned Rheolau Adeiladu
Adeilad 16
Parc Dewi Sant,
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA313HB

Ffôn: 01267 246012 / 246015
Ffacs: 01267 246017

e-bost: rheolaeth.adeiladu@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio