Adnewyddu elfennau thermol
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/3/2010
Adnewyddu elfennau thermol 

Yn Ebrill 2006, cyflwynodd y llywodraeth newidiadau mawr i ran o’r Rheoliadau Adeiladu sy’n ymwneud ag arbed ynni. Roedd y newidiadau hyn wedi’u cynllunio i helpu wrth frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a lleihau gwastraff ynni mewn adeiladau.
Beth yw Elfen Thermol?

Un o’r newidiadau oedd cyflwyno gofynion newydd a fyddai’n gymwys pan fyddai Elfen Thermol yn cael ei hadnewyddu neu’i hailosod.

Elfen Thermol yw to, wal neu lawr sy’n gwahanu man sydd wedi’i dymheru’n thermol (ei wresogi neu’i oeri) oddi wrth unrhyw un o’r canlynol:

l Y tu allan (gan gynnwys y ddaear), neu
l Ran o’r un adeilad nad yw wedi’i gwresogi, neu
l Strwythur sydd wedi’i eithrio o’r rheoliadau adeiladu, fel cyntedd neu ystafell wydr, neu
l Ran o’r un adeilad sydd wedi’i gwresogi neu’i hoeri i dymheredd gwahanol.

Mae adnewyddu Elfen Thermol yn golygu ychwanegu haen newydd at Elfen Thermol neu ailosod haen bresennol. Pan wneir y gwaith adnewyddu ar fwy na 25% o’r elfen dan sylw, bydd angen cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu cyn gwneud y gwaith a gall fod angen uwchraddio’r Elfen Thermol i ddarparu mwy o inswleiddiad.

Canlyniad y newid hwn yw y gall fod angen cymeradwyaeth bellach ar gyfer llawer o waith adeiladu a oedd wedi’i eithrio o’r Rheoliadau Adeiladu gynt oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn atgyweiriad.

Er enghraifft:-

l Ailosod gorchudd to llechi neu deils hyd yn oed os yw’n orchudd tebyg!
l Ail-blastro wal
l Ailosod ffelt ar do gwastad
l Adnewyddu nenfwd dan groglofft oer
l Rendro neu ail-rendro wal allanol
l Adnewyddu cladin ar ddormer
l Adnewyddu llawr daear sy’n cynnwys ailosod ffyn lefelu neu ddecio pren

Mae’n groes i’r Rheoliadau Adeiladu peidio â chyflwyno cais am waith adeiladu fel y nodir uchod. Gallai hyn arwain at erlyniad a dirwy ar gyfer y person sy’n gwneud y gwaith, a gallai achosi problemau os bydd yr eiddo yn cael ei werthu yn ddiweddarach.

O 1 Ebrill 2009, rhoddwyd rhai newidiadau ar waith mewn cysylltiad â Rheoliadau Adeiladu 2000, a allai gael effaith ar eich cynigion yn y dyfodol.

Bydd angen cais dan y Rheoliadau Adeiladu ar gyfer unrhyw gynigion i ailosod neu adnewyddu elfen thermol mewn adeilad, sef wal, llawr neu do, h.y.:

l ail-rendro neu ail-blastro wal allanol
l newidiadau fel malu’r llawr daear 
l newidiadau i orchudd y to.

Mewn rhai achosion, bydd angen gwelliannau thermol. Bydd unrhyw waith i uwchraddio ymwrthedd thermol pob elfen yn dibynnu ar nodweddion thermol yr adeilad presennol.

Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer gwaith o’r fath cyn i’r gwaith ddechrau.

Codir ffi am waith o’r fath a bydd yn amrywio yn seiliedig ar gost amcangyfrifedig y gwaith ar gyfer nifer yr elfennau thermol dan sylw. Gellir cyflwyno’r cais gan ddefnyddio’r weithdrefn Hysbysiad Adeiladu.

Mae cyfarwyddyd pellach ynghylch hyn ar gael yn Nogfen Gymeradwy L1B yn adran Defnyddwyr Proffesiynol gwefan y Porth Cynllunio, sy’n cwmpasu:

l Newidiadau i’r Rheoliadau Adeiladu (tudalennau 6-9)

l Cyfarwyddyd ynghylch elfennau thermol  (Adran 2 ar dudalennau 22-23)

l Esboniad ynghylch pryd y mae gwaith adnewyddu yn golygu bod angen uwchraddio deunydd inswleiddio a pha waith ychwanegol y gallai fod ei angen.  (gweler Atodiad A ar dudalennau 26-29)

Dylech ddarllen y Rheoliadau a’r Ddogfen Gymeradwy yn llawn ac, os oes gennych unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor cyn dechrau’r gwaith. Nid yw’r diffiniad o elfen thermol yn cynnwys ffenestri, drysau, ffenestri to neu oleuadau to.




 

 
Manylion Cysyllt
 
Uned Rheolau Adeiladu
Adeilad 16
Parc Dewi Sant,
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA313HB

Ffôn: 01267 246012 / 246015
Ffacs: 01267 246017

e-bost: rheolaeth.adeiladu@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio