A ydych yn ystyried addasu'r atig i helaethu eich cartref?
Os taw'r ateb i'r cwestiwn hwn yw 'Ydw', gallai'r canlynol eich helpu i ateb rhai o'ch cwestiynau.
l Ar gyfer beth fydd yr ystafell yn cael ei defnyddio?
l A fydd angen llawr newydd arnaf?
l Sut byddaf yn cyrraedd yr ystafell newydd?
l A wyf am osod ffenestri neu oleuadau to?
Fel arfer caiff atigau eu haddasu er mwyn creu:-
l Ystafell wely ychwanegol (gydag en-suite o bosibl)
l Ystafell chwarae
l Stydi/swyddfa
Os ydych yn bwriadu defnyddio'r gwagle yn yr atig i gadw eitemau ysgafn fel cesys dillad neu addurniadau Nadolig, mae byrddau rhyddion yn foddhaol fel rheol. Mae'n rhaid ichi gofio mai bwriad trawstiau'r to yw cynnal y nenfwd oddi tanynt ac nad ydynt wedi eu dylunio i ddal llawer o bwysau. Er mwyn osgoi rhoi gormod o bwysau ar drawstiau'r to, argymhellir nad yw'r byrddau rhyddion yn gorchuddio mwy na 50% o'r man defnyddiadwy.
Y man defnyddiadwy yw'r rhan o'r gwagle yn y to sydd ag uchdwr yn fwy nag 1.5 metr (oddeutu 4'6"). Yn aml defnyddir ysgol y gellir ei thynnu'n ôl i gael mynediad i'r man storio hwn.
Os ydych yn bwriadu defnyddio'r atig at ddiben arall heblaw am storio pethau ysgafn, bydd angen ichi ddweud wrth Adain Rheoli Adeiladu eich Awdurdod Lleol, a fydd yn rhoi cyngor ichi ynghylch y gweithdrefnau.
Pam y mae angen imi ddweud wrth yr Awdurdod Lleol?
Yr Awdurdod Lleol sy'n gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau Adeiladu, sy'n cael eu llunio er mwyn sicrhau y cyrhaeddir safonau rhesymol wrth adeiladu neu addasu adeiladau. Yn achos addasu atig, mae'r canlynol yn enghreifftiau o'r materion y mae'n rhaid i chi a/neu eich adeiladwr i'w hystyried.
Os defnyddir y gwagle at unrhyw ddiben ac eithrio at storio pethau ysgafn, bydd yn rhaid gosod llawr newydd. Bydd yn rhaid gosod trawstiau to newydd a'u cynnal, ynghyd â'u cadw'n glir o'r nenfwd presennol - ni chaniateir iddynt orwedd ar y trawstiau to newydd.
Mae'n bosibl y bydd yn rhaid dinoethi'r sylfeini a'r linteli i sicrhau eu bod yn gallu dygymod â'r pwysau ychwanegol. Efallai y bydd angen gosod distiau neu waith dur ar gyfer y llawr a'r strwythur ategu er mwyn cynnal yr atig sy'n cael ei haddasu. Gallai fod angen gwneud cyfrifiadau strwythurol i sicrhau bod yr elfennau hyn yn ddigonol.
Lle bo llawr ychwanegol yn cael ei greu wrth addasu gwagle presennol yn y to, yn ôl y Rheoliadau Adeiladu mae'n rhaid ystyried y darpariaethau ar gyfer dianc ar hyd bob cam o'r llwybr dianc. Er enghraifft, os caiff atig ei haddasu mewn tŷ deulawr, bydd angen diogelu'r grisiau drwy osod drysau, paredau, a lloriau gwrthsefyll tân lle nad oedd dim diogelwch o'r fath yn flaenorol. Fel arfer mae'r rhain yn gallu gwrthsefyll tân am hanner awr, a thrwy eu gosod yn y modd cywir byddant yn eich diogelu chi a'ch teulu.
Er mwyn atal datblygiad amodau byw amhleserus, mae'n rhaid sicrhau bod ystafelloedd byw, ceginau, ac ystafelloedd ymolchi wedi eu hawyru. Yn ôl y rheoliadau mae'n ofynnol cael system awyru gefndirol (diferu) neu gyflym, neu'r ddwy mewn rhai amgylchiadau.
Hefyd, gall anwedd gael effaith ar fannau sydd o'r golwg megis gwagleoedd yn y to. Gall anwedd achosi problemau os yw'n ormodol ac os na chaiff ei ddatgelu. O ganlyniad, mae'n rhaid bod gwagleoedd yn y to yn cael eu hawyru, ac mae hyn yn hynod bwysig wrth addasu atigau.
Er mwyn cael mynediad i'ch ystafell newydd bydd yn rhaid ichi ystyried y math o risiau yr hoffech ei gael. Yn ddelfrydol, dylech ddewis math traddodiadol a fydd yn eich galluogi i gael mynediad yn ddiogel ac yn hwylus. Os bydd tân mae'n bwysig eich bod yn gallu dianc yn gyflym.
Yn ogystal â chadw'r lle'n ddiddos, mae'n rhaid bod waliau a tho'r atig sy'n cael ei haddasu yn cadw'r gwres i mewn. Mae'n rhaid eu bod wedi eu gwneud o ddeunyddiau sy'n helpu i gadw gwres, ac mae hyn yn gallu helpu i gadw costau gwresogi cyn ised â phosibl. Cysylltwch â'r adain Rheoli Datblygu oherwydd mae'n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch.
Gwybodaeth Gyffredinol
Mae’n bosibl y bydd Deddf Muriau Cyd 1996 yn berthnasol os ydych yn bwriadu:-
l gwneud gwaith ar wal bresennol a rennir ag eiddo arall
l adeiladu ar y ffin ag eiddo arall
l cloddio ger adeilad cyfagos
Mae'n rhaid ichi benderfynu a yw'r gwaith yn berthnasol i'r Ddeddf, ac os ydyw, mae'n rhaid ichi drefnu rhoi hysbysiad statudol i bob perchennog sy'n ffinio â chi yn ôl diffiniadau'r Ddeddf. Efallai y bydd yn syniad ichi gael cyngor proffesiynol i sicrhau eich bod yn glir ynghylch y sefyllfa.
l Gwnewch gynllun o'r hyn rydych am wedi ei wneud. Peidiwch â gadael i neb eich rhoi o dan bwysau i wneud gwaith nad yw'n angenrheidiol neu waith na allwch ei fforddio. Ar gyfer gwaith mwy cymhleth, mae'n bosibl iawn y bydd angen cael cyngor proffesiynol.
l Sicrhewch eich bod yn cael y caniatâd neu'r cytundebau angenrheidiol gan eich awdurdod lleol a'ch cwmni yswiriant. Trafodwch eich cynlluniau â'ch cymdogion, yn enwedig os oes a wnelo'r gwaith â muriau cyd.
l Lluniwch restr fer o'r cwmnïau sy'n edrych yn ddibynadwy, gan ofyn ynghylch profiadau cyn-gleientiaid a chael sicrwydd gan fanciau o bosibl os yw hynny'n briodol.
l Holwch a oes gwarant werth chweil ar gael, sy'n eich gwarchod rhag bod busnes y contractwr yn dirwyn i ben. Efallai bydd cael yswiriant ar gyfer cynlluniau yn arbennig o briodol.
l Mae gwarantau ar gael ar y cyd ag Adain Rheoli Adeiladu yr Awdurdod Lleol.
l Byddwch mor glir â phosibl ynghylch y ffordd y byddwch yn ymdrin ag unrhyw anghydfodau.
Yn ogystal, mae'r Building Employees Confederation (BEC) yn cynnig cymorth ichi 'Gael y gorau o'ch adeiladwr'.
Diogelwch Trydanol mewn Preswylfeydd
O 1 Ionawr 2005 ymlaen, mae Diogelwch Trydanol wedi bod o dan reolaeth Rheoliadau Adeiladu. Fe'ch cynghorir i sicrhau bod yr holl waith trydanol yn cael ei wneud gan Drydanwr cymwys sydd wedi bod yn destun asesiad 'Part P' gan gorff cymeradwy. Bydd angen rhoi Tystysgrif Gydymffurfio i'r Awdurdod sy'n rhoi'r Dystysgrif Gwblhau. Fel arall, Adain Rheoli Adeiladu yr Awdurdod Lleol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â'r gofynion, a chodir tâl ychwanegol am hyn ar ben y taliadau arferol ar gyfer y prosiect.
Sut a phryd rwyf yn dweud wrth yr Awdurdod Lleol?
Cofiwch y gallwch droi at yr Awdurdod Lleol i gael cyngor. Bydd y Swyddog Rheoli Adeiladu sy'n gyfrifol am eich ardal yn falch o gael rhoi cyngor ichi am y gweithdrefnau i'w dilyn:-
Os byddwch yn penderfynu addasu'r atig (neu wneud unrhyw fath arall o waith adeiladu), bydd angen ichi roi gwybod i'r Awdurdod Lleol drwy gyflwyno naill ai a) cais â chynlluniau llawn neu b) Hysbysiad Adeiladu. Os byddwch yn dewis cyflwyno Hysbysiad Adeiladu, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol ichi roi gwybodaeth ychwanegol am elfennau penodol o'r adeiladwaith lle mae natur y gwaith yn gymhleth neu'n anghyffredin (e.e. yn achos addasu'r atig, yn aml mae angen cyfrifiadau gan beirianwyr strwythurol ar gyfer strwythurau llawr a tho dormer).
Mae oedi o ran cyflenwi gwybodaeth ategol yn gallu amharu ar gynnydd y gwaith ar y safle, felly rydym yn argymell yn gryf y cytunnir ar yr atebion dylunio cyn dechrau'r gwaith ar y safle.