English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Gwaith trydanol  
Electrical works

Rhan P – Rheolau ar gyfer Diogelwch Trydanol yn y Cartref

Mae’r rheoliadau Rhan P newydd, sy’n ymwneud â gwaith trydanol, yn berthnasol i dai / fflatiau annedd yn bennaf, gan gynnwys gerddi, tai allan fel siediau, garejis ar wahân a thai gwydr. O 1 Ionawr 2005, mae’r gwaith o ddylunio, gosod, archwilio a phrofi gosodiadau trydanol sy’n gysylltiedig â’r anheddau hyn yn disgyn dan y Rheoliadau Adeiladu.

Mae’r rheolau newydd wedi’u cyflwyno er mwyn:

l Lleihau nifer y marwolaethau, anafiadau a thanau a achosir gan osodiadau trydanol diffygiol

l Rhwystro adeiladwyr anghofrestredig rhag gadael gosodiadau trydanol mewn cyflwr anniogel

Os nad ydych yn dilyn y Rheoliadau Adeiladu newydd:

l Efallai na fydd y gwaith trydanol a wnaed yn ddiogel

l Gallwch brofi anhawster wrth werthu eich cartref os nad ydych yn meddu ar y tystysgrifau cywir

l Gallwn fynnu eich bod yn cywiro gwaith diffygiol

Gwaith y mae angen cymeradwyaeth ar ei gyfer

Bydd angen cymeradwyaeth dan Ran P ar gyfer gwaith sy’n cynnwys ychwanegu cylched newydd neu waith trydanol mewn ceginau, ystafelloedd ymolchi neu unrhyw rai o’r lleoliadau arbennig hyn.

Lleoliadau sy’n cynnwys cyfleuster bath neu gawod
Pyllau nofio neu byllau padlo
Sawnau
Systemau gwresogi trydan ar y llawr neu’r nenfwd
Goleuadau neu osodiadau pŵer yn yr ardd
Generaduron graddfa fach fel micro-unedau gwres a phŵer cyfunedig.
Gosodiadau golau foltedd isel iawn, ac eithrio setiau golau parod â marc CE 

Pa opsiynau sydd gennyf?

Bydd angen gwneud cais dan y Rheoliadau Adeiladu oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud gan drydanwr sydd wedi’i gofrestru dan y Cynllun Person Cymwys.

Pam y dylwn i ddefnyddio gosodwr sydd wedi’i gofrestru gyda chynllun person cymwys?

Mae’r aelodau yn gymwysedig ac wedi’u cymeradwyo i wneud y gwaith ar eich cyfer.

l Bydd yr aelodau yn rhoi tystysgrif i chi i gadarnhau bod eu gwaith yn dilyn y rheolau newydd.

l Ni fydd angen i chi gael cymeradwyaeth gan yr adain Rheoli Adeiladu.

l Bydd gennych opsiwn i brynu gwarant a gefnogir gan yswiriant ar gyfer y gwaith.

l Bydd gennych fynediad at weithdrefn gwyno ffurfiol os nad ydych yn fodlon â’r gwaith.


 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/3/2010
 
Manylion Cyswllt
 
Uned Rheolau Adeiladu
Adeilad 16
Parc Dewi Sant,
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA313HB

Ffôn: 01267 246012 / 246015
Ffacs: 01267 246017

e-bost: rheolaeth.adeiladu@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio