Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud 
Parc Y Scarlet


Mae’r adran hon yn cynnwys Syrfewyr Rheolaeth Adeiladu a staff cefnogi gweinyddol, sy’n ymgymryd â swyddogaeth statudol y Cyngor o dan Ddeddf Adeiladu 1984 a Rheoliadau Adeiladu 2000.

l Rheolaeth Adeiladu yw’r drefn, sy’n sicrhau bod gwaith adeiladu yn cael ei wneud i safonau cymeradwyedig, a bod amodau diogel ac iach yn cael eu darparu i ddefnyddwyr adeiladau.

l Mae’n ymwneud hefyd â chadwraeth ynni a mynediad i bobl anabl.

l Bydd angen i’r rhan fwyaf o adeiladau newydd gwrdd â gofynion y Rheoliadau Adeiladu.

Ein Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu

Botanical Garden

Ein prif amcan yw gwneud yn siŵr bod pob adeilad newydd a godwyd, neu a estynnwyd neu a addaswyd o fewn ffiniau Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cael eu hadeiladu i safon sy’n gwarchod iechyd, diogelwch, lles a hwylustod pobl.  Rydym yn cyflawni hyn drwy sicrhau bod pob gwaith adeiladu yn cwrdd â gofynion y rheoliadau adeiladu, sy’n gosod allan isafswm safonau i bob gwaith adeiladu.

l Mae’r rheoliadau’n ymdrin â sadrwydd y strwythur, rhagofalon tân, dulliau dianc, diogelu rhag lleithder, inswleiddio cadarn, awyru, draenio, cadwraeth ynni a mynediad a chyfleusterau i bobl anabl.

l Rydym yn derbyn tua 1,500 o geisiadau rheoliadau adeiladu ac yn gwneud 11,000 o archwiliadau safle bob blwyddyn.  Mae’r prosiectau yn amrywio o addasiadau mewnol i dai annedd i ddatblygiadau masnachol gwerth miliynau o bunnau.

staff


Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/2/2010
 
Manylion Cysyllt
 

Uned Rheolau Adeiladu
Adeilad 16
Parc Dewi Sant,
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA313HB

Ffôn: 01267 246012 / 246015
Ffacs: 01267 246017

e-bost: rheolaeth.adeiladu@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio