Ein prif amcan yw gwneud yn siŵr bod pob adeilad newydd a godwyd, neu a estynnwyd neu a addaswyd o fewn ffiniau Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cael eu hadeiladu i safon sy’n gwarchod iechyd, diogelwch, lles a hwylustod pobl. Rydym yn cyflawni hyn drwy sicrhau bod pob gwaith adeiladu yn cwrdd â gofynion y rheoliadau adeiladu, sy’n gosod allan isafswm safonau i bob gwaith adeiladu.
l Mae’r rheoliadau’n ymdrin â sadrwydd y strwythur, rhagofalon tân, dulliau dianc, diogelu rhag lleithder, inswleiddio cadarn, awyru, draenio, cadwraeth ynni a mynediad a chyfleusterau i bobl anabl.
l Rydym yn derbyn tua 1,500 o geisiadau rheoliadau adeiladu ac yn gwneud 11,000 o archwiliadau safle bob blwyddyn. Mae’r prosiectau yn amrywio o addasiadau mewnol i dai annedd i ddatblygiadau masnachol gwerth miliynau o bunnau.
