Mae rheoliadau adeiladu yn ymwneud â phroses adeiladu’r gwaith ei hun, gan dynnu sylw at yr elfennau ynghylch sut y mae adeilad yn cael ei roi at ei gilydd, er enghraifft, ystyried a oes gan yr adeilad strwythur diogel.
Mae’n rhaid cwrdd â safonau wrth adeiladu pob math o adeilad, gan roi sylw i faterion yn cynnwys sylfeini, atal lleithder, diogelu rhag tân a cheisio amddiffyn iechyd a diogelwch y bobl sy’n defnyddio’r eiddo. Gall rheoliadau adeiladu hefyd ystyried mynediad i’r adeilad, ac o’i amgylch, i bobl anabl.
Bydd eich cynlluniau ar gyfer y datblygiad yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn cwrdd â’r rheoliadau a bydd y gwaith hefyd yn cael ei archwilio yn ystod y broses adeiladu ar gamau adeiladu allweddol. Os bydd y prosiect yn cwrdd â gofynion y rheoliadau, cyhoeddir tystysgrif gwblhau. Mae’r ddogfen hon yn bwysig oherwydd y gallai fod ei hangen ar eich cyfreithiwr os byddwch yn penderfynu gwerthu eich eiddo.
Efallai y bydd arnoch angen cymeradwyaeth gynllunio yn ogystal â chymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu. (Gweler 'Cynllunio' sydd hefyd dan bennawd 'Yr Amgylchedd' yn y ddewislen lywio ar y chwith).
Mae rheoliadau cynllunio yn cwmpasu’r defnydd o dir ac adeiladau a golwg y cynllun, gan ystyried a fyddai datblygiad yn briodol i ardal benodol. Mae rheoliadau cynllunio hefyd yn cwmpasu materion yn ymwneud ag ardaloedd cadwraeth, Gorchmynion Cadw Coed, adeiladau rhestredig, hysbysebion, byrddau hysbysu ac arwyddion.
Nod caniatâd cynllunio yw diogelu a gwella ansawdd yr amgylchedd. Ei ddiben yw sicrhau bod y datblygiad wedi’i gynllunio’n dda, ei fod yn y lleoliad cywir ac na fydd ei effaith yn niweidio’r amgylchedd cyffredinol nac eiddo cyfagos. Os byddwch yn gwerthu eich eiddo yn y dyfodol, efallai y bydd angen copi o’r 'Hysbysiad o Benderfyniad Cynllunio' ar eich cyfreithiwr ar gyfer unrhyw estyniadau a gawsoch.
Mae rhai achosion lle byddai angen cais dan y rheoliadau adeiladu ond na fyddai angen cais cynllunio, ac i’r gwrthwyneb.
Mae cymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu ar wahân yn llwyr i ganiatâd cynllunio. Nid yw derbyn un yn sicrhau’n awtomatig y byddwch yn derbyn y llall.