Ynglŷn â Rheoli Adeiladu
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Ynglŷn â Rheoli Adeiladu 

Mae rheoliadau adeiladu yn ymwneud â phroses adeiladu’r gwaith ei hun, gan dynnu sylw at yr elfennau ynghylch sut y mae adeilad yn cael ei roi at ei gilydd, er enghraifft, ystyried a oes gan yr adeilad strwythur diogel.

Mae’n rhaid cwrdd â safonau wrth adeiladu pob math o adeilad, gan roi sylw i faterion yn cynnwys sylfeini, atal lleithder, diogelu rhag tân a cheisio amddiffyn iechyd a diogelwch y bobl sy’n defnyddio’r eiddo. Gall rheoliadau adeiladu hefyd ystyried mynediad i’r adeilad, ac o’i amgylch, i bobl anabl.

Bydd eich cynlluniau ar gyfer y datblygiad yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn cwrdd â’r rheoliadau a bydd y gwaith hefyd yn cael ei archwilio yn ystod y broses adeiladu ar gamau adeiladu allweddol. Os bydd y prosiect yn cwrdd â gofynion y rheoliadau, cyhoeddir tystysgrif gwblhau. Mae’r ddogfen hon yn bwysig oherwydd y gallai fod ei hangen ar eich cyfreithiwr os byddwch yn penderfynu gwerthu eich eiddo.

Efallai y bydd arnoch angen cymeradwyaeth gynllunio yn ogystal â chymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu. (Gweler 'Cynllunio' sydd hefyd dan bennawd 'Yr Amgylchedd' yn y ddewislen lywio ar y chwith).

Mae rheoliadau cynllunio yn cwmpasu’r defnydd o dir ac adeiladau a golwg y cynllun, gan ystyried a fyddai datblygiad yn briodol i ardal benodol. Mae rheoliadau cynllunio hefyd yn cwmpasu materion yn ymwneud ag ardaloedd cadwraeth, Gorchmynion Cadw Coed, adeiladau rhestredig, hysbysebion, byrddau hysbysu ac arwyddion.

Nod caniatâd cynllunio yw diogelu a gwella ansawdd yr amgylchedd. Ei ddiben yw sicrhau bod y datblygiad wedi’i gynllunio’n dda, ei fod yn y lleoliad cywir ac na fydd ei effaith yn niweidio’r amgylchedd cyffredinol nac eiddo cyfagos. Os byddwch yn gwerthu eich eiddo yn y dyfodol, efallai y bydd angen copi o’r 'Hysbysiad o Benderfyniad Cynllunio' ar eich cyfreithiwr ar gyfer unrhyw estyniadau a gawsoch.

Mae rhai achosion lle byddai angen cais dan y rheoliadau adeiladu ond na fyddai angen cais cynllunio, ac i’r gwrthwyneb.

Mae cymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu ar wahân yn llwyr i ganiatâd cynllunio. Nid yw derbyn un yn sicrhau’n awtomatig y byddwch yn derbyn y llall.

Esboniad ynghylch Rheoli Adeiladu

Yn y broses ddatblygu, boed hynny’n codi adeilad newydd, estyn neu addasu adeilad sy’n bodoli, neu newid y ffordd y mae adeilad yn cael ei ddefnyddio, fel arfer bydd angen i chi geisio cymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio.

Mae’r adain rheoli adeiladu yn sicrhau bod adeiladau yn cael eu hadeiladu a’u haddasu fel eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu, bod strwythurau peryglus yn cael eu rhoi’n ddiogel, a bod gwaith dymchwel yn cael ei wneud mewn ffordd mor ddiogel â phosibl.

Diben y rheoliadau yw amddiffyn iechyd a diogelwch pobl mewn adeiladau, ac o’u hamgylch.  Maent hefyd yn ymwneud ag arbed ynni a mynediad a chyfleusterau i bawb.

Mae syrfewyr yr adain rheoli adeiladu yn gweinyddu’r rheoliadau adeiladu.  Mae ein timau tra chymwys a phrofiadol o syrfewyr rheoli adeiladu yn edrych ar gynlluniau ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu, ac yn gwneud sylwadau arnynt, ac yn archwilio’r gwaith sy’n mynd rhagddo.  Mae eu gwybodaeth eang o ddeunyddiau a dulliau adeiladu ar gael i chi ar bob cam o’r broses adeiladu.


 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/3/2010
 
Manylion Cysyllt
 

Uned Rheolau Adeiladu
Adeilad 16
Parc Dewi Sant,
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA313HB

Ffôn: 01267 246012 / 246015
Ffacs: 01267 246017

e-bost: rheolaeth.adeiladu@sirgar.gov.uk

Gweld yr holl fanylion cyswllt cynllunio