BREEAM

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

 

BREEAM logo

 

BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu) yw prif ddull asesu amgylcheddol y byd ar gyfer adeiladau, a'r un a ddefnyddir fwyaf. Mae'r dull yn pennu'r safon ar gyfer yr arferion gorau o ran dylunio cynaliadwy. Rhoddir credydau mewn deg categori yn ôl perfformiad. Wedyn mae'r credydau hyn yn cael eu hychwanegu at ei gilydd i gael sgôr gyffredinol a'r raddfa yw Pas, Da, Da iawn, Gwych, a Rhagorol.

Graddau BREEAM % y Sgôr
Diddosbarth <30
Pas >30
Da >45
Da Iawn >55
Gwych >70
Rhagorol >85


Er mwyn symud tuag at gael adeiladau di-garbon sy'n fwy cynaliadwy, mae bellach yn ofynnol yn ôl Polisi Cynllunio Llywodraeth Cynulliad Cymru i brosiectau sydd ag arwynebedd llawr o fwy na 1000 metr sgwâr gyrraedd gradd 'Da iawn' BREEAM. Hefyd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r prosiectau y mae'n rhoi cyllid craidd iddynt gyrraedd gradd 'Gwych'.

Gweler crynodeb isod o'r materion a gwmpesir gan bob un o'r deg categori. Nod pob mater yw lleihau effaith adeilad newydd neu adeilad sy'n cael ei adnewyddu ar yr amgylchedd drwy bennu targed perfformiad a meini prawf asesu y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy er mwyn cadarnhau bod y targed wedi ei gyrraedd. Lle bo targed perfformiad wedi cael ei gyrraedd, gellir rhoi nifer y credydau BREEAM sydd ar gael.

Rheolaeth:
• Comisiynu
• Effeithiau safleoedd adeiladu
• Diogeledd

Iechyd a lles:
• Golau dydd
• Cysur gwres i'r sawl sy'n defnyddio'r adeilad
• Acwsteg
• Ansawdd aer a dŵr y tu mewn
• Goleuo

Ynni:
• Allyriadau CO2
• Technoleg ddi-garbon neu isel o ran carbon
• Gosod is-fesuryddion ynni
• Systemau adeiladu effeithlon o ran ynni

Trafnidiaeth:
• Y cysylltiadau â'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus
• Cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr
• Mynediad i amwynderau
• Gwybodaeth a chynlluniau teithio

Dŵr:
• Y dŵr a ddefnyddir
• Dod o hyd i ddŵr sy'n gollwng
• Ailgylchu ac ailddefnyddio dŵr
Defnyddiau:
• Effaith deunyddiau drwy gydol eu hoes
• Ailddefnyddio deunyddiau
• Dod o hyd i ffynonellau mewn modd cyfrifol
• Gwytnwch
Gwastraff:
• Gwastraff adeiladu
• Cerrig mân a ailgylchwyd
• Cyfleusterau ailgylchu
Defnydd Tir ac Ecoleg:
• Dewis safleoedd
• Diogelu nodweddion ecolegol
• Lliniaru/cynyddu gwerth ecolegol
Llygredd:
• Defnydd o rewyddion ac unrhyw ollyngiadau ohonynt
• Perygl Llifogydd
• Allyriadau NOx
• Llygru dyfrffosydd
• Llygredd o ran golau allanol a sŵn
Arloesedd:
• Lefelau perfformiad rhagorol
• Defnyddio Gweithwyr Proffesiynol sydd wedi eu hachredu gan BREEAM
• Prosesau adeiladu a thechnolegau newydd

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 30/5/2012