
BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu) yw prif ddull asesu amgylcheddol y byd ar gyfer adeiladau, a'r un a ddefnyddir fwyaf. Mae'r dull yn pennu'r safon ar gyfer yr arferion gorau o ran dylunio cynaliadwy. Rhoddir credydau mewn deg categori yn ôl perfformiad. Wedyn mae'r credydau hyn yn cael eu hychwanegu at ei gilydd i gael sgôr gyffredinol a'r raddfa yw Pas, Da, Da iawn, Gwych, a Rhagorol.
| Diddosbarth |
<30 |
| Pas |
>30 |
| Da |
>45 |
| Da Iawn |
>55 |
| Gwych |
>70 |
| Rhagorol |
>85 |
Er mwyn symud tuag at gael adeiladau di-garbon sy'n fwy cynaliadwy, mae bellach yn ofynnol yn ôl Polisi Cynllunio Llywodraeth Cynulliad Cymru i brosiectau sydd ag arwynebedd llawr o fwy na 1000 metr sgwâr gyrraedd gradd 'Da iawn' BREEAM. Hefyd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r prosiectau y mae'n rhoi cyllid craidd iddynt gyrraedd gradd 'Gwych'.
Gweler crynodeb isod o'r materion a gwmpesir gan bob un o'r deg categori. Nod pob mater yw lleihau effaith adeilad newydd neu adeilad sy'n cael ei adnewyddu ar yr amgylchedd drwy bennu targed perfformiad a meini prawf asesu y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy er mwyn cadarnhau bod y targed wedi ei gyrraedd. Lle bo targed perfformiad wedi cael ei gyrraedd, gellir rhoi nifer y credydau BREEAM sydd ar gael.
|
Rheolaeth: • Comisiynu • Effeithiau safleoedd adeiladu • Diogeledd |
Iechyd a lles: • Golau dydd • Cysur gwres i'r sawl sy'n defnyddio'r adeilad • Acwsteg • Ansawdd aer a dŵr y tu mewn • Goleuo |
Ynni: • Allyriadau CO2 • Technoleg ddi-garbon neu isel o ran carbon • Gosod is-fesuryddion ynni • Systemau adeiladu effeithlon o ran ynni |
Trafnidiaeth: • Y cysylltiadau â'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus • Cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr • Mynediad i amwynderau • Gwybodaeth a chynlluniau teithio |
Dŵr: • Y dŵr a ddefnyddir • Dod o hyd i ddŵr sy'n gollwng • Ailgylchu ac ailddefnyddio dŵr |
Defnyddiau: • Effaith deunyddiau drwy gydol eu hoes • Ailddefnyddio deunyddiau • Dod o hyd i ffynonellau mewn modd cyfrifol • Gwytnwch |
Gwastraff: • Gwastraff adeiladu • Cerrig mân a ailgylchwyd • Cyfleusterau ailgylchu |
Defnydd Tir ac Ecoleg: • Dewis safleoedd • Diogelu nodweddion ecolegol • Lliniaru/cynyddu gwerth ecolegol |
Llygredd: • Defnydd o rewyddion ac unrhyw ollyngiadau ohonynt • Perygl Llifogydd • Allyriadau NOx • Llygru dyfrffosydd • Llygredd o ran golau allanol a sŵn |
Arloesedd: • Lefelau perfformiad rhagorol • Defnyddio Gweithwyr Proffesiynol sydd wedi eu hachredu gan BREEAM • Prosesau adeiladu a thechnolegau newydd |