Ystyr bioamrywiaeth yn llythrennol yw amrywiaeth bywyd ar y ddaear. Mae’n cynnwys pob planhigyn ac anifail byw a’r ecosystemau y maent yn dibynnu arnynt
Mae i’w weld ymhobman o’n cwmpas, mewn gerddi, parciau, minffyrdd, caeau, mynyddoedd, afonydd ac yn y môr
Mae nifer o ffyrdd y gallwn oll helpu cadw bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin a gall pawb gymryd rhan! Gall hyd yn oed newidiadau syml wneud gwahaniaeth.
O'r safle hwn, gallwch weld gwybodaeth ynghylch:-
l Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth.
l Bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin.
l Beth allwch chi ei wneud er mwyn helpu i warchod bioamrywiaeth.
l Rhywogaethau a chynefinoedd gan gynnwys cynlluniau gweithredu.
l Llefydd gwyllt i ymweld â nhw a theithiau cerdded gwyllt.
l Cofnodi manylion unrhyw rywogaethau diddorol y byddwch chi'n dod o hyd iddynt.
l tair gwarchodfa natur leol yn Sir Gaerfyrddin.
Y Bartneriaeth Bioamrywiaeth
Mae'r Bartneriaeth Bioamrywiaeth yn rhwydwaith fawr sy'n cynnwys cynrychiolwyr o fwy na 17 sefydliad lleol, gan gynnwys cyrff bywyd gwyllt llywodraethol ac anllywodraethol, grwpiau gwirfoddol, busnesau lleol, yn ogystal â ffermwyr, perchnogion tir ac unigolion, a phob un yn cydweithio i ddiogelu bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin. Ewch i'n tudalen Partneriaeth i gael rhestr o sefydliadau sy’n rhan ohoni.
