Stryd Draenog
Mae draenogod angen eich help! Mae yna newyddion, ffeithiau ac awgrymiadau ar sut i wneud eich gardd yn fwy atyniadol i ddraenogod. Arwyddwch i fod yn bencampwr draenogod ac ymunwch efo 22000 o gynorthwywyr draenogod. www.hedgehogstreet.org/
Peidio â'u Rhyddhau
Mae 'Peidio â'u Rhyddhau' yn ymgyrch sy'n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o'r peryglon i fywyd gwyllt yn sgil rhyddhau llawer o falwnau neu lusernau awyr yn yr awyr agored. Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol a Chadwch Gymru'n Daclus yn cynnal deiseb i wahardd rhyddhau balwnau a llusernau yn yr awyr agored. I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y ddeiseb edrychwch ar.
Onid yw'r haf hwn wedi bod yn siomedig...
...nid yw'r tywydd hwn yn llesol i ni ac nid yw'n llesol i'r rhan fwyaf o loynnod byw chwaith!
Mae ymgyrch cyfrif Butterfly Conservation yn cael ei gynnal rhwng 14eg Gorffennaf a 5ed Awst. Allwch chi ein helpu i wybod beth yw'r sefyllfa o ran ein gloynnod byw drwy gyfrif unrhyw rai y gwelwch yn ystod 15 munud mewn tywydd teg (heulog yn ddelfrydol)? Gallwch eu cyfrif unrhyw le: ar diroedd ysgolion neu mewn gerddi, caeau neu goedwigoedd! Edrychwch ar-lein i gael rhagor o wybodaeth neu i gofnodi'r hyn a welwch.
Stopio...Edrych...Gwrando!
Mae bywyd gwyllt (ac ardaloedd gwyllt) o'ch amgylch ym mhob man waeth ble bynnag rydych chi yn y sir dim ond i chi stopio, edrych a gwrando. Ar bob adeg, bydd modd gweld neu glywed rhai o ryfeddodau bywyd gwyllt Sir Gaerfyrddin sy'n amrywio o gennau, llarwydd, gwenyn neu fwncathod dim ond i chi dreulio ychydig o amser yn edrych o'ch cwmpas.
Rhowch wybod inni am yr hyn rydych chi'n ei weld drwy lenwi'r ffurflen ar wefan y Cyngor. Byddem ni'n hoffi cael cofnodion o leoliadau ar draws y sir boed yn bethau cyffredin neu'n bethau prin er mwyn inni gael llun o'r hyn y mae pobl yn ei weld yn un o'r siroedd mwyaf amrywiol yng Nghymru. Os ydych chi'n gweld pethau ond ddim yn siŵr beth yn union ydynt, cofiwch dynnu lluniau a'u hanfon atom er mwyn inni geisio rhoi enw arnynt i chi!

Ystyr bioamrywiaeth yn llythrennol yw amrywiaeth bywyd ar y ddaear.
Mae’n cynnwys pob planhigyn ac anifail byw a’r ecosystemau y maent yn dibynnu arnynt. Mae i’w weld ymhobman o’n cwmpas, mewn gerddi, parciau, minffyrdd, caeau, mynyddoedd, afonydd ac yn y môr. Mae nifer o ffyrdd y gallwn oll helpu cadw bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin a gall pawb gymryd rhan! Gall hyd yn oed newidiadau syml wneud gwahaniaeth.
O'r safle hwn, gallwch weld gwybodaeth ynghylch:
- Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth
- Bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Beth allwch chi ei wneud er mwyn helpu i warchod bioamrywiaeth
- Rhywogaethau a chynefinoedd gan gynnwys cynlluniau gweithredu
- Llefydd gwyllt i ymweld â nhw a theithiau cerdded gwyllt
- Cofnodi manylion unrhyw rywogaethau diddorol y byddwch chi'n dod o hyd iddynt
- Tair gwarchodfa natur leol yn Sir Gaerfyrddin

Y Bartneriaeth Bioamrywiaeth
Mae'r Bartneriaeth Bioamrywiaeth yn rhwydwaith fawr sy'n cynnwys cynrychiolwyr o fwy na 17 sefydliad lleol, gan gynnwys cyrff bywyd gwyllt llywodraethol ac anllywodraethol, grwpiau gwirfoddol, busnesau lleol, yn ogystal â ffermwyr, perchnogion tir ac unigolion, a phob un yn cydweithio i ddiogelu bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin. Ewch i'n tudalen Partneriaeth i gael rhestr o sefydliadau sy’n rhan ohoni.