English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Trwyddedu Anifeiliaid 

Mae gan swyddogion Lles Anifeiliaid y Cyngor gyfrifoldeb am: roi cyngor ar agweddau trwyddedu anifeiliaid
Archwilio, a thrwyddedu, safleoedd sy'n destun i ddeddfwriaeth anifeiliaid; megis llety cŵn, llety cathod, siopau anifeiliaid anwes, sefydliadau marchogaeth, ac eraill; archwilio cwynion am les anifeiliaid yn y fath sefydliadau
Gweithredu'n ffurfiol yn erbyn troseddwyr lle nad yw camau eraill yn llwyddo; ymchwilio i gwynion am weithgareddau anghyfreithlon.

Mae angen trwydded ar gyfer: Sefydliadau Marchogaeth, cadw anifeiliaid gwyllt peryglus, llety cŵn, llety cathod, sefydliadau bridio cŵn, a siopau anifeiliaid anwes. Gweler yr adran 'Lawrlwytho' isod am ffurflenni cais.

Byddwn yn rhoi trwydded i weithredu o dan y ddeddfwriaeth berthnasol, cyhyd â bod yr ymgeisydd yn gweithredu'n unol â'r safonau a osodir. Archwilir y safleoedd trwyddedig fel mater o drefn o leiaf unwaith y flwyddyn. Os na fydd daliwr trwydded yn cydymffurfio â'r amodau a osodir, gall wynebu gweithredu ffurfiol os bydd camau eraill yn aflwyddiannus.

Dylech hefyd sicrhau fod gennych y caniatâd cynllunio priodol.  Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch ag is-adran cynllunio'r Cyngor Sir Gar.
 

Y ffïoedd a'r taliadau blynyddol sydd ar waith ers Ebrill 2012:

SEFYDLIADAU BRIDIO CŴN
Ffïoedd Milfeddyg £150.00
Hyd at 10 gast £75.00
Rhwng 11 a 25 gast £100.00
Rhwng 26 a 50 gast £200.00
Rhwng 51 a 80 gast £225.00 
Mwy na 80 gast £250.00
SEFYDLIADAU MARCHOGAETH
Hyd at 10 ceffyl £195.00 gan gynnwys ffïoedd milfeddyg
Rhwng 11 ac 20 ceffyl £220.00 gan gynnwys ffïoedd milfeddyg
Rhwng 21 a 50 ceffyl £275.00 gan gynnwys ffïoedd milfeddyg
Mwy na 50 ceffyl £350
SIOPAU ANIFEILIAID ANWES £120.00
ANIFEILIAID GWYLLT PERYGLUS £265.00 heb gynnwys ffïoedd milfeddyg
SEFYDLIADAU LLETYA
Single species £95.00
Multi species £140.00
TRWYDDED SW £275.00 heb gynnwys ffïoedd milfeddyg

 

Lawrlwytho 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/5/2012