Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Digital Services; : Llif Newyddion;>  | fersiwn symudol  | Teledu Digidol
Cewynnau Go Iawn 
baby wearing real nappies

Mae bron i 3,000 o dunelli o gewynnau tafladwy yn cael eu taflu i'r bin sbwriel yn Sir Gaerfyrddin bob blwyddyn, gan gostio mwy nag £180,000 - ac mae'n cymryd oddeutu 500 mlynedd iddynt bydru.

Nawr, mae rhieni'n cael eu hannog i beidio â phrynu cewynnau tafladwy a rhoi cynnig ar ddefnyddio 'cewynnau go iawn'.

Bydd angen o leiaf chwe chewyn y dydd ar fabi – gan ddyblu gwastraff y cartref mewn blwyddyn. Drwy ddefnyddio 'cewynnau go iawn', hyd yn oed am beth o'r amser yn unig, byddwch yn lleihau nifer y bagiau du yr ydych yn eu rhoi allan i'w casglu – a'r gwastraff sy'n cael ei anfon i gladdfeydd sbwriel!

Drwy brynu 'cewynnau go iawn' yn hytrach na chewynnau tafladwy, gall rhieni arbed hyd at £500 a hyd yn oed yn fwy na hynny os oes ail fabi.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 11/5/2009