Hepgor gwe-lywio | Newid maint y testun AAA |  Testun yn Unig | Cymorth | Cysylltwch â ni
Deunydd ailgylchu 
recycling greeny character

Croeso i gynllun ar y cyd newydd Sir Gaerfyrddin ar gyfer ailgylchu, compostio a chasglu sbwriel.

Bellach, bydd eich deunyddiau ailgylchu a'ch sbwriel yn cael eu casglu ar yr un dydd, ond un am yn ail wythnos â'r llall. Bydd eich gwastraff bwyd yn cael ei gasglu bob wythnos.

Bydd y cynllun hwn yn cymryd lle unrhyw gynllun yr ydych yn rhan ohono ar hyn o bryd.

Byddwch yn cael:

blue bags

 

Bagiau glas ar gyfer pob deunydd ailgylchu sych, gan gynnwys papur, cardfwrdd, caniau a phlastigion. DIM GWYDR.

 

green bin

 

Bin gwyrdd a chadi cegin brown ar gyfer pob gwastraff bwyd boed wedi ei goginio ai peidio.

 

 

black bags

 

Bagiau du ar gyfer gwastraff arall na ellir ei ailgylchu na'i gompostio. Bydd sbwriel cyffredinol yn cael ei gasglu mewn bagiau du yn unig.

Cewch roi hyd at BEDWAR bag du (maint safonol) allan i'w casglu bob pythefnos.

Os oes gennych wastraff lludw, cysylltwch â Galw Sir Gâr i gael cyngor drwy ffonio 01267 234567.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 07/5/2009
 
Manylion Cysyllt
 
carms direct 
Ffôn: 01267 234567
Ebost:  galw@sirgar.gov.uk