Mewn rhai achosion mae’n bosibl nad oes cludiant cyhoeddus addas neu gerbydau contract ar gael ar gyfer y daith gyfan neu ran ohoni. Yn yr amgylchiadau hyn bydd yr Awdurdod yn cynnig lwfans milltiroedd sefydlog fel y gall rhiant neu warcheidwad gludo’r disgybl i'r ysgol (neu i fan priodol i gwrdd â cherbyd addas os yw’r pellter hwnnw’n fwy na 1.5 milltir). Dim ond os yw’r dysgwr yn gymwys i gael cludiant am ddim yn unol â'r polisi hwn, ac na all yr Awdurdod ddarparu cludiant o'r fath, y telir treuliau teithio.